Skip to main content

Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 27 [Mai] 1917 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Ysgrifenna Owen o Wersyll Thirtle Bridge, Withernsea, Swydd Efrog. Fe aeth i Withernsea neithiwr ac mae wedi anfon rhai pethau nad oes eu hangen arno adref ac mae wedi postio bocs bychan gyda broes at Lizzie a'i fam.
Dywed am helynt ryfedd yn y gwersyll wrth i nifer gael eu hanfon adref am seibiant brynhawn ddoe. Mae dwy garfan, gan gynnwys ei garfan ef, yn barod i'w hanfon allan. Mae saith o'r dynion a anfonwyd ar yr 'out march' ddydd Gwener diwethaf wedi marw eisoes, dau o'r 'East Yorks' a dau o'r 'Collies'. Roedd Owen wedi clywed bod rhai ohonynt wedi marw ar y ffordd. Yn y cyfamser mae Owen wedi bod yn dysgu sut mae taflu bomiau a gosod weiren bigog o flaen y ffosydd.
Mae'n parhau i feddwl am ei deulu a'i ffrindiau wrth iddo ofyn sut mae Mary Jane Graigwen a dywed ei fod yn gobeithio ei bod yn parhau i wella. Cafwyd cwrdd yn eu gwersyll y bore yma gydag Eglwyswyr Eglwys Loegr. Derbyniodd lythyr oddi wrth Evan y bore yma hefyd; mae ef wedi bod mewn gwersyll arall. Gorffenna Owen ei lythyr drwy ddweud ei fod yn gobeithio y byddant yn dweud wrtho y gall ddod adref a dywed wrth ei rieni am roi eu cyfeiriad ar gefn eu llythyr nesaf rhag ofn y caiff ei ddychwelyd atynt.

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28695
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
27/5/1917
Gwelediadau:
1667
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment