Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 17 Mai 1917 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Owen at ei rieni o Wersyll Thirtle Bridge, Withernsea, Swydd Efrog. Gofynna iddynt am anfon crys ato oherwydd creda y bydd yna am ddiwrnodau. Mae'n cwyno eu bod i gyd wedi cael digon oherwydd eu bod yn cael eu rhoi ar orymdaith o hyd sy'n ddigon i fyddaru'r bechgyn. Nid yw eisiau mynd i ffwrdd ac fe hoffai petai'n medru osgoi hynny mewn unrhyw ffordd. Mae Owen wedi bod i weld y doctor; mae'n cwyno â rhiwmatig ac nid yw'n gallu bwyta'n iawn. Gofynnodd y doctor a oedd yn gallu gwneud ei waith yn iawn ac atebodd yntau na. Serch hyn, dywed Owen ei fod wedi'i osod ar y drafft ond fe gysura ei hun drwy ddweud bod un o'r dynion wedi cael ei atal rhag mynd ar y funud olaf y tro diwethaf a gobeithia y bydd hynny'n digwydd iddo ef.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment