Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 13 Mawrth 1917 [tudalen 1 o 4]
Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 13 Mawrth 1917 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, dywed Owen yr hanes ynglŷn ag ef yn cael ei symud o Thirtle Bridge i Bury ar ôl i'r Uwch-Sarsiant ofyn i unrhyw un a oedd yn medru trin y tir i wirfoddoli. Dywed wrth ei rieni fod yn rhaid iddo rhoi enw y person olaf y bu'n gweithio iddo ond nad yw'n siŵr a fyddant yn ysgrifennu at John Penybank. Os wnânt gysylltu nid oes angen dweud mwy na bod Owen wedi bod yn gweithio iddo ar y tir gan na fydd hynny'n golygu rhyw lawer iddynt beth bynnag! Ar ddiwedd y llythyr crybwylla nad yw'n gwybod i ba le y bydd yn mynd a dywed pa mor dda fyddai cael symud yn agos i'w gartref.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment