Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Anfonodd Tom Thomas y llythyr hwn at ei gefnder, Owen, o Bexhill on Sea, Sussex.
Roedd Tom yn gwasanaethu yn 4ydd Cwmni Canonau'r Gwarchodlu Brenhinol ac wedi bod yn aros am lythyr oddi wrth Owen ers misoedd. Ysgrifenna ei fod wedi bod ar seibiant saith niwrnod o'r 16 o Ragfyr [1916] ond fod y Magnelfa wedi bod yn Ffrainc ers mis. Mae'n disgwyl cael ei anfon allan unrhyw ddiwrnod a sonia fod carfanau o dri chant o filwyr yn cael eu hanfon o Bexhill i Gosport bob wythnos yn barod i gael eu hanfon dramor. Ar ddiwedd y llythyr mae'n anfon ei gofion a'i ddymuniadau gorau at Owen gan obeithio clywed oddi wrtho'n fuan.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw