Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Postiwyd y cerdyn post hwn yn Gilfach Goch ar 18 Gorffennaf 1905, ychydig ddiwrnodau wedi'r drychineb erchyll ym mhwll glo Wattstown, y Rhondda, pan laddwyd 119 o ddynion. Mae'r anfonwr yn cofnodi ar y cefn bod y cerdyn hwn yn darlunio 'that awfull [sic] disaster that occurred last week ..'. Yn anffodus, dyma un yn unig o blith nifer o drychinebau tebyg a ddigwyddodd ym Maes Glo De Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif (gyda'r un gwaethaf yn digwydd yn ystod y ffrwydriad yng Nglofa Universal, Senghennydd, ym 1913, pan laddwyd 439 o lowyr). Roedd cloddio am lo yn waith peryglus iawn. Yn wir, amcangyfrifir bod yn agos at 3,500 o lowyr de Cymru wedi'u lladd mewn trychinebau o'r fath yn ystod y cyfnod rhwng 1837 ac 1927. Roedd y trychinebau hyn yn aml yn cyd-fynd â difaterwch perchnogion pyllau glo o ran diogelwch o dan ddaear. Roedd ôl-effaith cymdeithasol ac economaidd digwyddiadau o'r fath yn bellgyrhaeddol. Yn sgil y ffrwydriad yn Wattstown ym 1905, collodd 44 o wragedd eu gwŷr, collodd 110 o blant o dan 14 mlwydd oed eu tadau, a gadawyd 10 oedolyn dibynnol: bu'n rhaid i'r cyfan ddysgu ymdopi ar eu pennau eu hunain neu 'fyw oddi ar y plwyf'.

Ffynhonnell: Roger Williams and David Jones, 'The Cruel Inheritance. Life and death in the coalfields of Glamorgan' (Pontypool: Village Publishing, 1990) a David Egan, 'Coal Society. A History of the South Wales Mining Valleys 1840-1980 (Llandysul: Gwasg Gomer, 1987).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw