Siop yn 14 Llechyfedach, Cwm Gwendraeth 1933
Disgrifiadau
Rhannwyd y llun hwn yn garedig gyda ni gan Steffan John, sy’n rhannu hanes ei hen hen fam-gu yn agor siop ym mharlwr ei chartref.
"Mae’r llun hwn o 14 Llechyfedach yn Nhymbl Uchaf, Cwm Gwendraeth. Yn y llun yw Elizabeth ‘Bessie’ Perkins (fy hen hen mamgu) a’i mab Glyndwr Perkins (fy hen dadcu). Credir tua 1933 y cymerwyd y llun.
Fel y gwelwch yn y ffenest gwaelod ar y dde, mae yna arwyddion yn y ffenest, ble oedd yna siop ym mharlwr y tŷ. Agorodd Elizabeth y siop ar gyfer trigolion lleol. Nid ydym yn siŵr pan agorodd na chaeodd y siop, ond rydym yn gwybod ei bod dal ar agor yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan fyddai pobl yn dod i’r siop gyda’u llyfrau dogni (ration books). Bu farw Bessie ym 1993 yn 100 oed, ac mae wedi ei chladdu yng Nghapel Bethania ger Llechyfedach.
Mae ein teulu wedi byw yn rhif 14 Llechyfedach (‘City Gardens’ yn flaenorol) ers i’r tai cael eu hadeiladu yn y 1920au cynnar. Gaeth fy mamgu, Janet Hague, ei magu yna ac mae fy mam yn cofio ymweld yna’n aml i weld ei mamgu a thadcu. Mae fy mamgu’n cofio ei mamgu hi, Bessie, yn cadw gardd lysiau mawr a byddai pob tŷ gyda thwlc moch yn yr ardd gefn. Mae’n cofio’r cig yn cael ei hongian ym mhantri’r tŷ, sydd dal gyda’r silffoedd a llechen i gadw pethau’n oer gwreiddiol. Fy ystafell wely tra roeddwn i'n byw gyda fy rhieni oedd yr un ystafell a ganwyd fy mamgu ynddi! Ges i, fy mrawd a’n chwaer ein magu yna hefyd ac mae fy rhieni’n dal i fyw yna."
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment