Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

ATGOFION CHWAREL gan HUGH G.ROBERTS (Croesorydd)
Sion Parri “Sion Parri machgien i”
Daniel Jones Ty Hen- “Dan Ty Hen”
John Roberts Ty’n yr Onnen

Yr wyf am esgyn unwaith eto hyd gaerau uchel hen Chwarel y Rhosydd. A chael ychydig ymgom, mewn atgof, a rhai o’r hen weithwyr gynt. Cofiaf am dri chymeriad ffraeth a doniol fyddai yn llwytho a chludo rwbel naddu o’r Felin Newydd, sef Daniel Jones, Ty Hen, a John Roberts, Ty’n yr Onnen, y ddau o Fedd Gelert, a Sion Parri, y Rhyd, Llanfrothen.

Dyn ifanc gwydn iawn oedd “Dan Ty Hen,” ac er mai un llaw oedd ganddo, yr oedd yn gallu gwneud ei waith yn drefnus a chyflawn. Yr oedd lawer o ysbryd ffarmio yn nodweddu Dan, a bu’n ffarmio wedyn ym Mron Hebog,-un o ffermydd ochr Cwm-cloch, hefo’i dad a’i fam. Y mae nawr yn ffermio yn y Sugun bach, gerllaw Pentref Bedd Gelert.
Gwr tawel iawn, a diwyd ryfeddol oedd John Roberts, Ty’n yr Onnen, ac yn gyson bob amser gyda’i waith. Byddai yn aros am yr wythnos yn y Barics.

Mae William ei fab, “Wilw” ar lafar, yn byw ym Mau Colwyn, a bydd Mrs. Roberts, ei briod lengar a chofus, yn arfer ag ysgrifennu i’r “Manion.” Diau mai Sion Parri, y Rhyd, oedd y hynotaf ohonynt, os and un weithwyr hynotaf y Rosydd, yr adeg honno. Manylad arno ef.

Yr oedd yn hanu o hen deulu enwog o’r Penrhyn. Yr oedd y diweddar Mr. John Parry Jones, yr arwerthwr poblogaidd yn nai o frawd ei dad i Sion Parri, a’i briod a’i chwaer i Margaret Roberts, Bron Heulog gynt. Mewn bwthyn bychan o’r new Ty Brwyn, yn y Rhyd, yr oedd ei drigfan. Perthynai i’r Bedyddwyr Albanaidd, y byddai yn teithio yn gyson yr holl ffordd i Gapel Ramoth.

Byddai yn cario eiu ginio mewn hances, neu bapur; yn ei law, gan nas gallai fynd yn ol a blaen i’r Rhyd rhwng moddion. Bu yn arfer felly am gyfnod maith.
Af eto i’r Rhosydd yn awr. Efo oedd y cyntaf i ddechrau cario rwbel o’r felin, a bu wrthi gyda berfa olwyn am dymor, ond pan aeth y ffordd yn bell rhoddwyd wagen iddo, yr hyn oedd yn llawer ysgafnach iddo na’r ferfa i wneud ei waith. Ond nid oedd Sion Parri yn cwyno unwaith, ac yn cymryd y physig fel y dywed y doctor, “Sion Parri?” “Wel,” meddai Sion Parri, “Mi cymis i o i gyd ar unwaith, weldi. Yr oeddwn yn credu os y gwnai llwyad ohono fy altro y gwnai cynnwys y botal i gyd fy mednio.” Dyna farn Sion Parri am y pysig, a chaed llawer o hwyl gydag ef ynghylch y peth. “Sion Parri, machgian i,” fyddai pawb yn ei alw, gan ei fod yn arfer y geiriau hynny yn aml. Ei gyfarchiad bob amser fyddai, “Wel, machgian i, sut yr wyt ti Heddiw?” ac felly y cafodd yr new doniol, a arferid am dano.

Un bore cododd i wneud tan ac i ferwi y teciall, ond nid oedd y teciall ddim yn berwi. Wedi oedi hyd yr eithaf cododd un brawd ac edrychodd i’r teciall, ac er ei syndod nid oedd yr un dafn o ddwr ynddo. Bu helynt a’r gloch bron a chanu, ond nid oedd dim i’w wneud ond chwilio am ddwr poeth ar unwaith mewn Baricod eraill. Bu llawer mwy o ofal am Sion Parri wedi hyn.

Yr oedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol iawn, ac yr oedd ei fywyd yn llawn o bethau diddorol. Pe y buasai yr hen frawd Robert Jones, Y Rhyd (Llanbedrog, fel y’i gelwid, am mai un oddiyno ydoedd) yn fyw, buaswn yn cael llawer o dywediadau pert Sion Parri. Medrai ei ddarlunio i’r dim. Yr oedd yn un o’r cymeriadau hynotaf a gyfarfyddaid erioed. Bu yn gweithio yn y twll o dan y ddaear, ac un tro gofynodd y stiwart iddo,-“John Parri, ple mae hwn a hwn Heddiw? Ni welais i mono foy n ei agor pnawn yma.” “Ydi hi yn bwrw glaw yn arw allan Heddiw, machgien i?” meddai Sion Parri, mewn atebiad. Fel yna y byddai ef bob amser yn cyfarfod a’i holwr sef trwy ofyn cwestiynau i gyfeiriad arall. Dyma ddull arall o’i eiddo o ofyn cwestiynau,-“Oes dim posib i’r hen ddyn gael darn yn ei ffordd, machgian i?” Pan oedd y Parch Richard Owen, y Diwygiwr, yn anterth ei fri, a llawer son am dano yn y wlad, gofynnodd Sion Parri i Evan Williams, y Rhyd-“Pryd y mae Richard Owen am ddwad i Llanfrothen ma, deudwch?””Wel,” meddai Evan Williams, “ofnaf nas gall dod am dair clynedd, beth bynnag.” “Diar mi!” meddai Sion Parri yn synedig. “Pob gwrach fyddo yn ei gyflwr. Nis gall yr hen ddyn gael diwrnod o waith pe llwgai!” Chwarddodd Evan Williams.

Gwr byr o gorff ydoedd, ond cadarn, hen stwncyn called. Yr oedd yn hoff iawn o gnoi baco. Ni byddai yn poeri, ond byddai sudd y baco yn rhedeg fosydd cochion i lawr dros ei en.

Cafodd oed lled faith, wedi magu tyaid o blant. Un ohonynt oedd y diweddar frawd, Mr David(Dafydd) Parry, y Rhyd, yn ddiweddaf o Danw Deg, y Garreg, yr hwn a fu yn swyddog diwyd a ffydlon yn Eglwys Siloam (M.C) Llanfrothen.
Yr oedd yn daid hefyd i Mr. John Parry y postman-sydd yn gludydd ffyddlon newyddion da a drwg i Gwm Croesor. Dyna i chwi ychydig o deithi hynod Sion Parri, a’i dras.

HUGH G.ROBERTS (Croesorydd)
Dalied ati, diolch.

HERALD CYMRAEG
20/03/1928

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw

Adborth