Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
FY ANWYL HEN FODRYB YN EI BEDD.
Marwolaeth Mrs Ellen J.Williams, Casaugua, PA.
Gan Thomas L.Williams, Hastings-on-Hudson, N.Y.
Y DRYCH 28/03/1918
Dymunaf gyflwyno i ddarllenwyr y 'Drych' ychydig o hanes, yn nghyd a darlun cywir o'r gwrthrych uchod; un sydd wedi bod yn adnabyddus i drigolion Slatington, Catasauqua ac Allentown, am dros 60 mlynedd. Yr oedd yr ymadawedig yn briod i'r diweddar John Williams (Bryn 'Refail), yr hwn a fu farw yn 1902, a bu hithau yn ol a blaen gyda'i phlant byth er hyny. Gyda'r ddwy ferch y byddai yn gwneyd ei chartref y rhan fwyaf. Y tro cyntaf erioed i mi ei gweled oedd yn New York, gyda'i merch Jane yn y flwyddyn 1903, ond nid oedd yr hen wraig yn teimlo ei hun gartref yno, oherwydd ychydig, os dim Saesneg oedd ganddi, er wedi bod yn y wlad hon am gynifer o flynyddoedd; Cymraeg a Chymru oedd ei phethau i gyd, ond yr oedd yr oll o deulu Jane, ac eithrio Jane ei hun, yn Saeson, a'r sgwrs yn y ty yr oll yn Saesneg, ac eithrio hyny fyddai yr hen wraig a'i merch yn ei siarad. Ac nid oedd modryb yn fodlon ar hyny, yr oedd arni eisieu cael bod mewn cylch mwy CymreigyddoI, ac felly gyda'i merch Ann, sef Mrs. Richard Thomas, 1034 6th Street, Catasauqua, yr oedd yn caru cael bod; yr oedd yr oll yno yn siarad iaith a foddlonai yr hen wraig. Yno y bu hi farw ddydd Gwener, sef Mawrth 1af, o'r flwyddyn bresenol, wedi dyoddef o honi lesgedd a gwendid corfforol am amser maith, ac wedi llwyr golli ei golygon er's tro. Cafodd ofal tyner a charedig gan y teulu hwn, er ei bod wedi myned megys plentyn er's tro.
Bu ei diweddar briod a hithau flynyddau yn ol yn dwr cadarn i achos crefydd Iesu Grist yn y capel Cymreig yn Catasauqua, a bu ei phriod yn flaenor gweithgar yno am flynyddau lawer, ac efe fu yn foddion i ddal i fyny yr achos Cymreig yn y lle, ac wedi iddo ef fyned mae yr achos Cymreig wedi diflanu, ond yr hen gapel yn sefyll o hyd, er nad oes moddion yno mwyach. Yr oeddvn yn edrych ar yr hen gapel ddydd ei angladd, yr oedd wedi ei wneyd yn lle i'r Groes Goch (Red Cross) i weithio ynddo yn awr. Y tro diweddaf y gwelais i yr ymadawedig yn fyw oedd ryw saith neu wyth mlynedd yn ol; yr oedd hi y pryd hwnw yn ei dweyd hi yn arw yn nghylch dod a'r Saesneg i fewn i'r capel, ond 'doedd dim perswadio arni hi, i ddweyd y rheswm paham. Wrth ddweyd wrthi mai er mwyn yr ieuenctyd yr oeddynt yn gwneyd hyny, gofynai yr hen wraig a oedd ieuenctyd yr oes hon yn rhy neis i ddysgu Cymraeg, ac i gadw moddianau Cymreig i fyny, yr hyn oedd hi a'i phriod wedi ymladd cymaint i'w gadw i fyny?
Merch ydoedd yr ymadawedig i'r diweddariaid Evan a Jane Jones, Felin Fargoed, Fach Wen. Nid oes yn awr ond un o'r plant yn aros, set fy anwyl fam, Jane; mae yr oll wedi myned. Er na fu modryb drosodd yn Nghymru o gwbl wedi dod yma, ac nas gwelodd fy mam hi er pan yn bur ieuanc, eto yr oedd yn gwybod fod ganddi chwaer. Dywedodd Sam Ellis yn ddiweddar 'fod gobaith o New York, ond, dim o'r nefoedd;' felly yr oedd fy mam yn teimlo, fod gobaith o'r America, ond dim o'r bedd; felly, mae gobaith fy anwyl fam wedi diflanu, drwy fod ei hunig chwaer wedi ei rhoddi i orphwys yn y bedd. Yr oedd yr ymadawedig yn 85 mlwydd oed: er mis Ionawr diweddaf, ac hefyd yn i nain i 38 o blant, ac yn hen nain i 18. Hefyd yr oedd Robert a Morris R. Jones, Arvonia, Va., yn gefndryd iddi.
Cynaliwvd gwasanaeth angladdol yn y ty am 2 o'r gloch y dydd Mawrth canlynol, pryd yr oedd tyrfa fawr wedi dod yn nghyd. Gweinyddwyd gan y Parch. L. Williams, Slatingto, gwr ieuanc dymunol, ac yn siaradwr rhwydd yn y ddwy iaith. Bu y teulu yn ddoeth iawn yn ei ddewis, gan mai Cymraes drwyadl ydoedd, ac na fuasai gwasanaeth Seisnig ddim yn gweddu iddi hyd yn nod yn fud yn ei harch. Mae i alaru ar ei hol wyth o blant, sef Thomas Evan a David, ac Ann, sef Mrs. Richarl Thomas. Catasauoua; John a Robert yn Allen- town; William yn Erie, Pa., a Jane Picken, yn Jersey City, N. J., ac un chwaer, sef fy anwyl fam Jane yn Nghymru. Dymunir ar i bapyrau Caernarfon, G. C., gofnodi yr uchod.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw