Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyfweliad gyda Margaret Ellis o Dalybont. Mae'n sôn am ei phlentyndod, ei theulu, pobl y pentref [Talybont, Bangor], ei mam yn croesawu faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar y cyfan, cyfweliad yn llawn atgofion hapus gyda’i ffrindiau gorau yn tyfu i fyny mewn pentref bychan, diogel. Cynhelir y cyfweliad yn Gymraeg.

Pynciau:

00:34 - 04:17 - Atgofion cyntaf - geni yn y tai cyngor cyntaf yn Nhalybont; salwch a marwolaeth ei thad efo diciau; atgofion mynd i Fethesda i siopa
04:18 - 05:16 - Gwaith ei mam ar ôl marwolaeth ei thad
05:17 - 08:09 - Sut oedd Talybont ar y pryd - hanes y tai a'r hen siopa
08:10 - 15:25 - Atgofion plentyndod yn Nhalybont - beth oedd plant yn chwarae, cymeriadau'r pentref, picnics a gweithio ar ffermydd dros yr haf
15:26 - 17:02 - Ysgol Llandegai ac Ysgol Uwchradd Bethesda
17:03 - 18:45 - Atgofion yr Ail Ryfel y Byd a chael efaciwis
18:46 - 22:12 - "Teenage Years" - atgofion o adloniant a job gyntaf yn Woolworths
22:13 - 24:49 - Arglwydd Penrhyn - atgofion o'r Arglwydd yn dod i'r ysgol bob Dolig a mynd efo'r ysgol i fynwent ar ôl marwolaeth yr Arglwydd
24:50 - 26:07 - "Fisitors" a chadw B&B
26:08 - 26:59 - Derbyn parseli dillad gan "social"; beth oedden nhw'n bwyta fel arfer
29:29 - diwedd - Gwahaniaeth rhwng Bethesda a Thalybont ar y pryd

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw