Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
-
Cyfweliad gyda Mr Kanai Chatterjee a Mrs Anamika Chatterjee. Pwyllgor Puja Cymru. 2016
Cyfweliad gyda Mr Kanai Chatterjee [KC] a Mrs Anamika Chatterjee [AC] am eu hatgofion a'u cysylltiad â Phwyllgor Puja Cymru.
[00:00:00] Mae KC wedi bod yn ymwneud â Phwyllgor Puja ers 30 mlynedd. Mae'n disgrifio sut a phryd y cymerodd ran yng Ngŵyl Puja yn 1975. Mae'n enwi'r bobl a gymerodd ran ar y pryd. AC yn rhannu ei hatgofion o baratoi bwyd.
[00:06:06] Mae KC yn sôn am yr heriau roedden nhw’n eu hwynebu yn y dyddiau cynnar.
[00:07:10] Mae AC yn sôn am heriau a phwysigrwydd Puja i bob Indiaid ac yn sôn am yr her o gasglu rhoddion a rhedeg Puja am 6 diwrnod. Mae KC yn disgrifio lledaeniad Puja ledled Cymru, a'r profiad o gasglu rhoddion yn y dyddiau cynnar ac yn awr.
[00:12:05] Profiadau mwyaf cofiadwy KC yw casglu Chada (rhoddion) a pharatoi ar gyfer Puja. Mae KC yn sôn am Puja fel cyfle blynyddol i gymdeithasu, gyda 2500 i 3000 o bobl yn dod dros 6 diwrnod. Disgrifia AC y pleser o gwrdd â phobl ifanc a rhannu ei phrofiadau gyda nhw.
[00:17:30] Mae KC yn sôn am ei waith yn y diwydiant dur, lle cyfarfu â phobl ifanc o India, yn Tata steel, a ddaeth yn ymwneud â Puja a thyfodd ar lafar gwlad.
[00:18:58] Mae KC yn disgrifio ei brofiad o ddod yn brif offeiriad yn Puja dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae AC yn dweud sut mae hyn yn effeithio arni, a sut y daeth yn gynorthwyydd iddo, sut y dysgon nhw'r defodau crefyddol.
[00:29:19] Mae KC yn disgrifio dylanwad technoleg ar Puja, sut mae detholiadau Puja wedi cael eu darlledu yng Nghaerdydd a Kolkata.
[00:30:21] Mae AC yn esbonio sut mae’r GIG wedi tyfu’r gymuned Bengali, a sut mae gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol Puja wedi cynyddu o ran maint. Mae KC yn credu mai’r sment sy’n dal y grŵp at ei gilydd yw mai’r Puja yw’r ŵyl fwyaf yn y calendr Hindŵaidd, ac mae’n annog pobl i ymuno.
[00:35:57] Mae KC yn adrodd sut mae arddangosfa Durga Puja yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 2008 wedi lledaenu gwybodaeth yn eang ymhlith gwahanol gymunedau.
[00:39:58] Mae KC yn cydnabod y cymorth a gafodd fel offeiriad, a’i fod yn falch o gyfrannu i gymdeithas.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw