Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen o berfformiad Opera The Pirates of Penzance gan Gymdeithas Amatur Operatig Llandilo/Llandeilo yn neuadd y Farchnad Llandilo/llandeilo ar 1 2 3 Mai 1934. Llywydd y digwyddiad oedd yr Arglwydd Dynevor; y Cyfarwyddwr Cerdd oedd P. R. Daniel; y Cynhyrchydd oedd Dr J. H. Lloyd. Yn y rhaglen ceir rhestr o'r cast a chrynodeb o'r plot.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw