Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma rhaglen o berfformiad Operetta Sbaeneg The Magic Key, gan Blant Eglwys Llandilo/Llandeilo yn y Drill Hall Llandilo/llandeilo a'r 11 a12 Chwefror 1931.Cyfeilydd Miss Nancy Jones LRAM LTCI gyda cherddorfa fach o dan arweiniad Mrs Richard Jones.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw