Disgrifiad

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos.Rhaglen o Berfformiad Oratorio Mendelssohn Elijah gan Gymdeithas Gorawl Capel Newydd yn Capel Newydd Llandilo/Llandeilo ar 10 a11 Ebrill 1929. Yr Arweinydd oedd Mr. John Williams a'r Organydd oedd Mr R J Evans Banc y Midland. Y Llywyddion oedd Y Gwir Anrhydeddus, Arglwyddes Dynevor a Syr Henry EE Philipps, Bart.,D.L. Mae llawer o hysbesybion amrywiol yn y rhaglen.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw