Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma lyfryn hysbysebu 10 ochr gyda gofod bach gyda manylion o adloniant "Peg O my Heart" ( golygfeydd ) gyda cherddoriaeth gan 2 ffidil, cello a piano, dan nawdd Eglwys CM. Ceir hefyd hysbyseb drama o'r enw "The Last of Mrs Cheyney" yn y Drill Hall, Llandeilo ar 13, 14, 15, Ionawr 1931. Mae'r hysbysebion a geir yn y rhaglen am fusnesau lleol ar y cyfan, gyda un neu ddwy o Abertawe.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw