Rhaglen perfformiad o Opera ‘The Yeomen of the Guard’ gan Cymdeithas Amatur Opera Llandilo / Llandeilo, Neuadd y Farchnad, Llandeilo, ar 5, 6, 7 Mai 1931
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Opera ‘The Yeomen of the Guard’ gan Gymdeithas Amatur Opera Llandilo / Llandeilo, Neuadd y Farchnad, Llandeilo, ar Nos Fawrth, Nos Fercher a Nos Iau, 5, 6, & 7 Mai 1931, am 7:30yh. Arweinydd y perfformiadau oedd Mr R. J. Evans; y Cynhyrchydd oedd Dr J. H. Lloyd; y Cyfeilyddion oedd Mrs Daniel, Mrs Dan Jones LRAM, a Miss Nancy Jones LRAM LTCL; gyda Cerddorfa Rhydaman a’r Fro.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment