Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Enwogion Mawreddog gan Côr Meibion Caerfyrddin ac artistaid yn Capel Newydd, Llandeilo ar 15 Mawrth 1962. Arweinydd Côr Meibion Caerfyrddin oedd Roy Davies; y Cyfeilydd oedd Gwynfor Davies; ac ymhlith yr artistiaid oedd Jean Allister, Richie Thomas a Richard Rees. Cadeirydd y digwyddiad oedd Idris Davies Ysw., Wernlas, Talyllychau. Cyfranwyd elw’r gyngerdd tuag at Gymdeithas y Deillion, Sir Gaerfyrddin. Arywddwyd y rhaglen gan Richard Rees a Jean Allister. Ceir nifer o hysbysebion yn y rhaglen ynghylch busnesau lleol Llandeilo.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw