Rhaglen Cyngerdd Mawreddog Côr Meibion Treforus yn Capel Newydd, Llandilo / Llandeilo, dan nawdd y ‘Mutual Improvement Society’ ar 1 Mawrth 1938
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Mawreddog Côr Meibion Treforus yn Capel Newydd, Llandilo / Llandeilo, dan nawdd y ‘Mutual Improvement Society’ ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 1938 am 7.30 yh. Arweinydd y noson oedd Mr Ivor Sims; y Llywydd oedd Phillip Morgan Ysw., Isfryn Clydach; y Cyfeilyddion oedd Mr R. J. Evans, Aberayron / Aberaeron, a Mr Gwyn Harries, Brynamman / Brynaman.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment