Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd yn y Drill Hall (Neuadd Ddinesig), Llandilo / Llandeilo dan nawdd Côr Meibion Llandilo a’r Fro ar nos Iau 26 Mai 1932 am 8 o’r gloch. Arweinydd y gyngerdd oedd D. R. Emlyn Evans LRAM LTRL, Llandeilo; y Cyfeilyddion oedd Miss Nancy Jones LRAM LTRL, a Mr R. J. Evans Aberayron / Aberaeron; a’r Cadeirydd oedd Dan F. James Ysw., Llandeilo. Aeth elw’r gyngerdd tuag at Ysbyty Abertawe a Llanymddyfri.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw