Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Cysegredig yn Neuadd y Farchnad Llandilo / Llandeilo ar ddydd Sul 19 Gorffennaf 1931. Y Cyfeilyddion oedd Miss Nancy Jones LRAM, Llandeilo, a Mr R. J. Evans Aberayron / Aberaeron; y Cadeirydd oedd y Cyng. H. W. Griffiths, Gwili Hotel, Llandeilo.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw