Skip to main content

Rhaglen cyngerdd gyda'r nos yn neuadd Victoria, Llandeilo, i godi arian at filwyr o wlad Belg a anafwyd yn y rhyfel, ar nos Fawrth, 15 Awst 1916

Disgrifiadau

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen cyngerdd codi arian ar gyfer milwyr o wlad Belg a anafwyd yn y rhyfel, yn neuadd Victoria (Drill Hall / Neuadd Ddinesig) ar nos Fawrth, 15 Awst 1916. Cynhaliwyd y digwyddiad o dan nawdd Y Fonesig Dinefwr, Mrs G. W. Gwynne Hughes, Yr Hybarch Archddiacon Williams R. D. D. Pritchard-Davies YH (Cadeirydd Cyngor Dosbarth Dinesig Llandeilo), a threfnwyd gan bwyllgor artistiaid o wlad Belg, yn cynnwys cantorion ac offerynwyr.

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
14/12/2022
Owner:
Anne Williams
Crëwr:
Langley & Sons, The Euston Press
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
30/10/2023
Gwelediadau:
387
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment