Rhaglen Cyngerdd Enwogion Mawreddog yn Capel Newydd, Llandeilo ar 2 Mawrth 1961
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Enwogion Mawreddog yn Capel Newydd, Llandeilo ar 2 Mawrth 1961 am 7 yr hwyr. Y Llywydd oedd Mrs Onfel Thomas Llanfair-y-muallt; y Cadeirydd oedd y Parch W. Raymond Williams MA; y Cyfeilydd oedd Menna Williams GRSM LRAM ARCM; yr Organydd oedd Miss Lal Lewis LLCM; ac ymhlith yr artistiaid oedd y soprano Marion Studholme; y Contralto Iona Jones; y Tenor Stuart Burrows; a’r Baritone Gerwyn Morgan; a’r Telynor Jean Thomas LRAM (Telynores Tywi).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment