Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Byd o fioamrywiaeth, treftadaeth ddiwydiannol a golygfeydd panoramig dros Fôr Iwerddon sy’n gwneud Parc Morglawdd Caergybi yn unigryw.
Stori
Mae Wil Stewart, sy’n aelod o Wasanaeth Cefn Gwlad ac Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cyngor Sir Ynys Môn, yn eiriolwr brwd dros Barc y Morglawdd. Mae Wil hefyd yn un o ‘100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol’ yng Nghymru. Mae ei gariad at Gaergybi, Ynys Môn a Chymru, sydd mor glir pan fyddwch chi'n cyfarfod â Wil ym Mharc y Morglawdd, yn dangos yn glir pam enillodd y wobr yma.
Mae Parc y Morglawdd yn gorwedd wrth droed Mynydd Twr. Mae gan y parc Ganolfan Ymwelwyr, oriel awyr agored, siop goffi a maes chwarae gyda'r holl fframiau dringo a siglenni arferol, yn ogystal ag ardal chwarae synhwyraidd. Mae'r cyfleusterau hyn i gyd ar waelod clogwyni a gerfiwyd o Fynydd Twr pan oedd yn chwarel ar gyfer y cerrig a ddefnyddiwyd i osod sylfeini'r morglawdd. Roedd ffowndri frics yma hefyd am flynyddoedd lawer, yn gwneud brics ar gyfer odynau a gwaith gwres uchel. Mae’r adeiladau presennol, eu holion traed a’u hadfeilion, wedi’u defnyddio i adeiladu’r seilwaith ymwelwyr unigryw.
Ewch am daith gerdded fer am ryw bum munud ar hyd Llwybr Arfordir Ynys Môn i olygfan ac fe gewch chi’ch gwobrwyo â golygfa odidog o'r arfordir trawiadol, Arfordir Creigiog, a'r morglawdd. Os ydych chi'n teimlo fel taith gerdded hirach, gallwch barhau dros y mynydd i oleudy Ynys Lawd! Mae yna hefyd lwybrau cerdded byr prydferth iawn o fewn y parc, ac mae gan rai fynediad i gadeiriau olwynion. Beth am grwydro o amgylch llyn hyfryd? Cofiwch eich camera!
Mae’r parc yn agored drwy gydol y flwyddyn.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw