Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Myles Pepper yn hel atgofion am siwrnai Canolfan Celfyddydau Gorllewin Cymru o 1987 hyd heddiw.

Stori
Cefais fy magu yn agos at Garn Ffoi ar Fynydd Trefdraeth, sydd heddiw yn dal yn lle allweddol yn fy mywyd, gan fy mod i’n aml yn mynd yno i gael ysbrydoliaeth. Rwy wedi bod yn gweithio yn y celfyddydau ers 53 o flynyddoedd a phan fues i’n astudio gemwaith a chrefft gof arian yn Birmingham fy mwriad i bob amser, yn groes i bob cyngor ac eithrio cyngor fy rhieni oedd yn fy nghefnogi, oedd dychwelyd i ogledd Sir Benfro; a hynny ar sail fy nghred y byddai diwylliant yn ei ystyr ehangaf yn chwarae rôl allweddol wrth symud ymlaen drwy gynnig cyfleoedd i bobl eraill leoli eu hunain mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda chyfle i wneud o leiaf rhan o’u bywoliaeth yma.

Pan brynes i Ganolfan Celfyddydau Gorllewin Cymru ym 1987 roeddwn i’n dal i ymarfer fel gof gemwaith arian, a hynny tan tua 2005, pan roddais i’r gorau iddi. Adeg y trobwynt mawr yma, roeddwn i’n cwestiynu bywyd, roeddwn i eisoes wedi bod yn cynnal cyngherddau, ystod eang o weithdai creadigol, digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau llyfrau gwahanol, i gyd yn bennaf i greu cyfleoedd i blant oedran ysgol a myfyrwyr ifanc ddefnyddio’u hegni yn greadigol. Sylweddolais fy mod i’n weddol alluog am drefnu digwyddiadau ac rwy’n dal i weithio gyda hyn mewn golwg.

Wrth droi yn ôl at fy nyddiau ar y mynydd roedd hi’n amlwg bod gen i ddiddordeb mawr mewn pwy a beth oedd tu hwnt i orwelion Môr mawr Iwerddon, felly does ryfedd mai tuag at Swydd Wexford y byddwn i’n estyn fy llaw mewn cyfeillgarwch. Nid stori fer mo hon ac rwy'n teimlo bod yna lyfr yn yr arfaeth, o bosibl i'w lansio ym mis Hydref 2024 pan fydd nifer o gomisiynau newydd mewn cerddoriaeth, ysgrifennu a ffurfiau celfyddydol eraill yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yna'n cael mynd ar daith o Benmaendewi i Gaergybi, a Dún Laoghaire i Gorc, hyn dros gyfnod o dair blynedd gyda golwg ar sefydlu rhwydweithiau newydd a chynaliadwy. Enw’r project ‘mawreddog’ hwn yw Simffoni Mara ac mae wedi’i ysbrydoli gan Fywyd ar gyrion Môr Iwerddon, Bywyd arno a Bywyd odano.

Mae bwyd wedi chwarae rhan ganolog mewn datblygu perthnasoedd a syniadau newydd a thrwy hyn, dechreuais goginio, a magu diddordeb mewn gwin... Os hoffech chi wybod rhagor, dewch draw aton ni, fe gewch chi groeso cynnes!! Mae’r ‘Ganolfan’ yn gyfrwng i ddod â phobl at ei gilydd ac i greu cyfleoedd i’r gynulleidfa brofi rhywbeth newydd mewn amgylchedd gwahanol, ac yna rhoi cyfleoedd i berfformio ac arddangos i ymarferwyr uchelgeisiol a sefydledig. Pan oeddwn i’n blentyn fe fydden ni’n mentro ar draws Môr Iwerddon ar deithiau dydd i Wexford, a dechreuais i fagu perthnasoedd yn Swydd Wexford ym 1995. Mae'r geiriau canlynol a gomisiynais yn ddiweddar gan yr awdur adnabyddus Grahame Davies yn dweud gyda'r holl liw a hud yr hyn na allai gael ei ddweud mewn cyn lleied o eiriau gan neb ond y llenor gorau.

Simffoni Mara
Yn y dyfnder rhwng dwylan,
am ennyd, clywyd y gân.
Yn y dim rhwng y ddwy don,
yn y distawrwydd, mae’r dôn.
Yn y gwynt, os gwrandewi,
mae llithiau a lleisiau’r lli.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw