Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Glaniad y Ffrancwyr yn Sir Benfro ym mis Chwefror 1797 oedd y tro olaf i filwyr y gelyn lanio ar dir Prydain.

Stori
Glaniad y Ffrancwyr oedd y tro olaf i filwyr y gelyn lanio ar dir Prydain. Digwyddodd y glaniad yng nghyd-destun glaniadau eraill arfaethedig, ond aflwyddiannus, yn Iwerddon a rhannau eraill o arfordir Prydain, roedd y Ffrancwyr yn gobeithio y bydden nhw’n tynnu sylw ac yn gwanhau lluoedd Prydain. Y flwyddyn wedyn glaniodd milwyr Ffrainc ym Mae Killala ar arfordir gorllewin Iwerddon, yn rhy hwyr i gefnogi gwrthryfel oedd yn ceisio rhyddhau’r wlad o ormes Prydain. Yn Iwerddon roedd cryn gefnogaeth i'r Ffrancwyr, nid yn unig gan y Gwyddelod Unedig ond gan rannau helaeth o'r boblogaeth wledig, Gatholig, oedd wedi gweld eu bywydau’n cael eu cyfyngu’n ddifrifol ac yn aml yn greulon o dan reolaeth Prydain.

Doedd gan y radicaliaid o Gymry oedd yn gefnogol i ddelfrydau'r chwyldro ddim rhwydwaith tebyg, na chefndir tebyg. Gan hynny, mae’r atgofion a’r traddodiadau sy’n dwyn i gof ‘Blwyddyn y Ffrancwyr’ yn bur wahanol yng Nghymru ac Iwerddon.

Ar brynhawn 22 Chwefror 1797, wythnosau ar ôl ymgais aflwyddiannus milwyr Ffrainc i lanio ym Mae Bantry ar arfordir gorllewin Iwerddon, anfonodd y Cadfridog Lazare Hoche lynges o Brest dan ofal y Gwyddel Americanaidd William Tate. Y nod oedd ymosod ar arfordir gorllewin Prydain a thynnu sylw'r llywodraeth rhag anfon rhagor o filwyr i Iwerddon. Wedi methu â glanio ger Bryste, hwyliodd y pedair llong ryfel ymlaen i Fôr Iwerddon ac angori oddi ar drwyn Carregwastad ychydig i'r de o Abergwaun.

Drwy’r nos ar 22 Chwefror 1797 daeth rhyw 1250 o filwyr, arfau, cyflenwadau, bwledi ac ati i'r lan yma. Roedd y milwyr hyn yn cael eu hadnabod fel y Légion Noire (‘y Lleng Ddu’) am eu bod yn gwisgo lifrai Brydeinig wedi’i hailddefnyddio ac wedi’i lliwio’n dywyll, ac yn cynnwys cymysgedd o filwyr wedi’u hyfforddi a rhai afreolaidd, gan gynnwys carcharorion ac ymgilwyr. Arweiniodd y cyrch trawiadol yma – mae'r arfordir yma'n hynod serth a chreigiog – at gyfres o ddigwyddiadau a ddaeth i ben pan ildiodd y Ffrancwyr ddau ddiwrnod wedyn. Cafodd carreg goffa sydd bellach wedi hindreulio ei chodi yma ym 1897.

Yn sgil glaniad y Ffrancwyr cafwyd panig a ddisgrifiwyd gan un tyst ‘fel tan gwyllt yn difa sofl’. Ar 23 Chwefror cipiodd milwyr Ffrainc fferm Trehowel ac yno y sefydlodd Tate ei ganolfan. Cafodd y milwyr newynog rwydd hynt i ysbeilio pantri a seleri llawn y perchennog, John Mortimer: credid yn gyffredinol bod hyn wedi cyfrannu at golli pob disgyblaeth a hynny’n gyflym. Mae baled leol yn eu disgrifio nhw:

Dwyn yr yde o’r ysguborie
A gwartheg a’r lloie’n llu;
Mynd i’r seleri (naws hwyl arw)
[I] gael cwrw croyw cry’.

Anfonodd Tate genhadon i Abergwaun i drafod ildiad amodol. Gwrthod cynnig Tate wnaeth lluoedd Prydain gan fynnu ei fod yn ildio’n llwyr, gan roi tan 10 o’r gloch fore trannoeth i filwyr Ffrainc gydymffurfio. Ar fore 24 Chwefror daethpwyd â'r milwyr Ffrengig o amgylch y pentir mewn cychod a chafodd eu harfau eu gollwng mewn ildiad ffurfiol. Wedyn cawsant eu gorymdeithio i garchar Hwlffordd, lle mae un tyst cyfoes yn eu disgrifio fel rhai newynog a dryslyd. Yn y pen draw, cafodd Tate a llawer o'r milwyr eu cyfnewid am garcharorion Prydeinig. Ymddangosodd delweddau trawiadol James Baker o’r milwyr ar Draeth Wdig yn fuan iawn ar ôl y digwyddiad, a buan iawn y daeth safle ‘Glaniad y Ffrancwyr’ yn atyniad i dwristiaid.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw