Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Camwch yn ôl i hanes yng Ngorsaf Bad Achub hynaf Cymru
Stori
Mae Amgueddfa Forwrol Caergybi, sydd wedi'i lleoli ar Draeth Newry yn Harbwr Caergybi, yn atyniad mae'n rhaid ymweld ag ef i'r teulu cyfan. Cafodd yr amgueddfa ei sefydlu ym 1986 ar ôl ymdrechion ymroddedig gan wirfoddolwyr lleol. Yn wreiddiol, cafodd ei gartrefu yn Eglwys Elfod Sant, ac wedyn symudodd i'w leoliad presennol, sef Tŷ’r Bad Achub a adnewyddwyd, ym 1998. Cafodd ei godi ym 1857 a Thŷ’r Bad Achub yw'r orsaf bad achub hynaf yng Nghymru ac mae ganddo statws rhestredig Gradd II. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n fan ymgynnull answyddogol i forwyr a llongwyr o'r Iseldiroedd oedd wedi’u lleoli yng Nghaergybi. Heddiw, gallwch weld arddangosfa o'r enw 'Caergybi yn y Rhyfel' yn yr hen Loches Cyrchoedd Awyr, oedd yn amddiffyn personél Llynges yr Iseldiroedd.
Mae'r amgueddfa'n canolbwyntio ar hanes morwrol Caergybi, yn enwedig ei chysylltiad ag Iwerddon ar draws Môr Iwerddon. Mae'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan dîm ymroddedig o bron 50 o wirfoddolwyr, gan gynnwys ymddiriedolwyr, sy'n sicrhau bod treftadaeth forwrol gyfoethog Caergybi yn cael ei chadw a’i hybu. Mae gan y gwirfoddolwyr wybodaeth eang am y pwnc ac maen nhw’n ddigon bodlon rhannu eu dealltwriaeth gydag ymwelwyr.
Mae prif adeilad yr amgueddfa yn arddangos hanes morwrol Caergybi o ganrifoedd lawer yn ôl i'r cyfnod mwy modern. Pan sefydlwyd yr amgueddfa am y tro cyntaf, sylweddolwyd bod llawer o arteffactau, lluniau a dogfennau pwysig yn cael eu cadw gan deuluoedd lleol ond eu bod mewn perygl o gael eu colli wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen. I ddiogelu'r trysorau hyn, gwnaed galwad i’r bobl leol, a’u hannog i gyfrannu eitemau o’r atig, siediau, cypyrddau a droriau. Mae'r rhoddion hyn wedi arwain at gasgliad unigryw sy'n fwy nag y gall yr amgueddfa ei ddangos.
Mae'r amgueddfa yn cadw cronfa ddata gyfrifiadurol i gofnodi'r holl arteffactau, diolch i ymdrechion archifydd gwirfoddol. Mae wedi’i hachredu yn erbyn safonau a gydnabyddir yn genedlaethol ac mae’n cael ei harchwilio’n gyson i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r gofynion.
Gan fod yr economi lleol yn dibynnu’n fwyfwy ar dwristiaeth yn sgil ymadawiad diwydiannau sy'n talu'n dda, mae Amgueddfa Forwrol Caergybi yn ymdrechu i addysgu’r trigolion a’r ymwelwyr am dreftadaeth forwrol y dref. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r amgueddfa wedi canolbwyntio ar wella’i phrofiad i ymwelwyr er mwyn cyfrannu'n fwy sylweddol at yr economi lleol. Mae ymweliadau llongau mordeithio wedi tyfu bob blwyddyn, gan ddod â budd i economi'r dref.
Er gwaethaf llwyddiant yr amgueddfa, y brif her iddi yw diffyg lle gweithredu. Dros y blynyddoedd, mae'r casgliad wedi ehangu'n sylweddol, ac mae'r amgueddfa wedi tyfu'n rhy fawr i’w chyfleusterau presennol. Does dim digon o le ar gyfer arddangos, storio, adnoddau llyfrgell ac mae’r cyfleusterau cyflwyno yn cyfyngu ar ei gallu i adrodd hanes treftadaeth forwrol y dref yn llawn. I fynd i'r afael â'r cyfyngiad hwn, mae'r amgueddfa wedi datblygu cynllun busnes manwl i sicrhau cymorth ariannol. Mae'r gwirfoddolwyr yn dal i ymrwymo i'w cenhadaeth o warchod treftadaeth forwrol y dref ac maen nhw’n hyderus yn eu gallu i oresgyn yr heriau hyn.
Fel gwarcheidwaid treftadaeth forwrol Caergybi, mae Amgueddfa Forwrol Caergybi wedi bod yn allweddol wrth gasglu a chadw arteffactau, dysgu'r cyhoedd, a sicrhau bod hanes cyfoethog y dref yn dal i gael ei rannu am genedlaethau i ddod.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw