Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Mae Capel bach y Pysgotwyr, y tu ôl i'r eglwys yn Angle, yn gartref i gampwaith Celfyddyd a Chrefft ac ynddo olygfa o'r traeth a’r bywyd gwledig delfrydol.
Stori
Mae'r capel bach sydd wedi'i leoli ar dir Eglwys y Santes Fair yn Angle yn cael ei adnabod fel Capel y Pysgotwyr neu'r Morwyr, ac mae o fewn taith gerdded fer o'r traeth ym mhen gorllewinol Bae Angle. Fflatiau llaid yw’r bae sy’n fan bwydo pwysig ar gyfer adar hirgoes. Mae fferi Rosslare yn mynd heibio yn dawel ger ceg y bae a gellir gweld tref Aberdaugleddau y tu ôl.
Adeilad canoloesol yw Eglwys y Santes Fair ac mae’r gangell, y corff a’r porth yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd eglwys wedi ei lleoli yma am lawer hirach na hynny, ac am gyfnod byr ym 1175-6 Gerallt Gymro oedd y rheithor. Mae'n debyg bod enw Capel y Pysgotwyr yn deillio o'r crypt, a ddefnyddid fel lle i ddod â chyrff morwyr oedd wedi boddi cyn eu claddu.
Mae plac ar y wal yn nodi i'r capel gael ei sefydlu gan Edward de Shirburn o Nangle ym 1447, a'i fod wedi ei gysegru i Sant Antwn. Mae teils canoloesol diweddar wedi'u gosod yn y llawr, yn ogystal â delw gŵr canoloesol, o'r bymthegfed ganrif yn ôl pob tebyg. Ychwanegwyd gwydr lliw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan William Wailes at y ffenestri, a ddarparwyd yn ôl pob tebyg adeg adfer y capel gan Elizabeth Mirehouse ym 1862.
Mae'r capel yn gartref i un o grŵp o reredosau paentiedig gan y pensaer a'r artist Celfyddyd a Chrefft John Coates Carter o Benarth. Ar ôl gweithio ar eglwysi ledled y De, efallai mai Abaty Ynys Bŷr yw ei waith mwyaf adnabyddus, a adeiladwyd rhwng 1907 a 1913.
Cafodd y mwyafrif o'r reredosau hyn eu gwneud yn ystod degawd olaf ei fywyd, ac m ae’n ymddangos iddo eu dylunio, eu cerfio a'u paentio ei hun. Cafodd yr enghraifft yn Angle ei chwblhau ym 1926, flwyddyn yn unig cyn iddo farw. Gwelir ffigur Crist cerfluniedig mewn mantell â’i freichiau ar led ar y groes yn y canol. Y tu ôl iddo mae tirwedd ddelfrydol wedi'i fframio gan angylion mawr a'r testun: 'I can do all things in Christ who strengtheneth me’.
Mae'r eglwys a'r capel bach, fel yr angylion, i’w gweld mewn aur i'r chwith o olygfa banoramig o linell o bobl a'u da byw; mae dau ddyn yn gwthio cwch i'r dŵr, wrth i un arall sefyll gyda rhwyf. Yn y rhan uchaf mae llong hwylio fawr yn ei hwyliau llawn yn ymddangos uwchben y pentir, sy'n ein hatgoffa o'r ddyfrffordd brysur i'r gogledd o'r penrhyn.
Gallwch weld reredosau paentiedig tebyg gan John Coates Carter yng ngorllewin Sir Benfro yng Nghastell Gwalchmai a Llan-lwy, er nad yw'r naill na'r llall mor lleol ei ddeunydd â'r un hwn yn Angle. Cafodd enghreifftiau cerfiedig heb eu paentio eu creu ar gyfer eglwysi'r dref yn Aberdaugleddau (Eglwys y Santes Catrin) a Doc Penfro (Eglwys Sant Ioan). Mae set o seintiau cerfiedig yn rhan o olygfa’r croeshoeliad yn Aberdaugleddau, ac yn Noc Penfro mae'r pedwar prif banel yn dangos golygfeydd o fywyd y Forwyn Fair, gyda'r Forwyn a'r Plentyn yn y canol. Mae’r panel ym mhen draw un o'r adenydd plygu yn cynnwys llong
mewn cerfwedd gain, yn atgof bach yn yr eglwys o weithgareddau morwrol y dref.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw