Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Plwyfolion ddoe a heddiw a dalodd am ffenestr liw yn Abergwaun gan un o artistiaid gwydr lliw mwyaf nodedig Cymru, sy’n cyfeirio at stormydd y gaeaf.
Stori
Yn gymharol hwyr yn y 1920au y dechreuodd y traddodiad o gomisiynu gwydr lliw yn Eglwys y Santes Fair yn Abergwaun. Cafodd yr eglwys ei dylunio yn y 1850au gyda golwg allanol a mewnol oedd yn debycach i gapeli Anghydffurfiol na llawer o eglwysi Anglicanaidd. Pan gyrhaeddodd y ficer newydd, y Parchedig R. Lloyd Lloyd, ym 1894, gwelodd fod y tu mewn i’r eglwys heb ei addurno, a gosododd groes a chanhwyllau ar yr allor, gan lunio llen flaen i’r allor o wisg briodas ei wraig.
Erbyn 1919 cytunwyd bod angen dybryd i’r eglwys gael ei hadnewyddu, a cheisiwyd amcangyfrifon ar gyfer ffenestri newydd gan y gwerthwyr haearn lleol, W.R. Eynon & Co. Nid yw'n hysbys faint o ffenestri plaen gan y cwmni lleol a gyflenwyd yn y pen draw, gan fod cyfres o naw ffenestr gwydr lliw coffâd wedi’u comisiynu ar gyfer yr eglwys oddi wrth dri chwmni gwahanol yn Llundain rhwng 1919 a 1930. Comisiynwyd yr holl ffenestri hyn gan deuluoedd lleol er cof am aelodau teuluol a fu farw yn ddiweddar.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd comisiynwyd rhagor o ffenestri lliw, gan gynnwys dwy gan gwmni o Abertawe, Celtic Studios. Celtic Studios oedd y stiwdio gwydr lliw gyntaf i wneud unrhyw nifer o ffenestri i eglwysi, a gwnaeth ddigonedd o ffenestri i eglwysi ar draws y De. Artist arall o Gymru a ddechreuodd wneud ffenestri i eglwysi yn y 1960au oedd John Petts, ac mae dwy o'i ffenestri e bellach yn llenwi'r ffenestr ddwyreiniol dros yr allor a'r ffenestr fawr orllewinol uwchben yr oriel.
Erbyn y 1980au roedd angen trwsio’r ffenestri dros y balconi ym mhen gorllewinol yr eglwys. Amcangyfrifwyd y byddai'r gost o ailosod y gwydr plaen yn cyfateb i ryw £1100, ond roedd y ficer, y Parchedig Gerwyn Morgan, wedi cysylltu â John Petts a ofynnodd am £3360 i lenwi'r tri chwarel â gwydr lliw. Roedd Petts yn amlwg yn awyddus i sicrhau’r comisiwn, a dywedodd ei fod yn gallu dyfynnu prisiau 1981 oherwydd faint o blwm oedd ganddo mewn stoc o hyd. Disgrifiodd Morgan Petts fel 'un o'r dynion gorau yn ei faes' ac erbyn y 1980au roedd Petts wedi ymgymryd â chomisiynau i ystod eang o adeiladau crefyddol, gan gynnwys set drawiadol o baneli i Synagog Newydd Brighton and Hove a setiau o ffenestri a cherfluniau i’r eglwysi Catholig yn Llansawel a Gorseinon.
Yn wahanol i'r ffenestri blaenorol a ariannwyd yn breifat, penderfynwyd na fyddai'r ffenestr yn gofeb ond yn cael ei hariannu drwy gyfraniadau o £5 gan blwyfolion ddoe a heddiw. Llwyddodd yr ymateb ysgubol i godi £3000 yn ystod dyddiau cyntaf yr ymgyrch a daeth y ffenestr yn adnabyddus fel 'Ffenestr y Bobl'. Fe'i sefydlwyd tua diwedd 1984.
Mae'r ffenestr yn dangos Crist yn y ffenestr ganolog yn tawelu'r storm o'i gwmpas, wrth i'w ddisgyblion gilio rhag nerth y storm. Mae'r geiriau 'Peace be Still' i'w gweld isod a theimlai Petts y byddai cynefindra pobl Abergwaun â stormydd y gaeaf yn agosáu at y dref o'r môr yn taro deuddeg gyda'r neges a geid yn y ffenestr.
Ychwanegwyd un ffenestr arall i'r eglwys ym 1986, a honno hefyd yn waith John Petts. Roedd hon yn gofeb i'r Parchedig D.F. Williams, ficer Rudbaxton yn Sir Benfro, gynt o Abergwaun, ac mae'n wynebu Ffenestr y Bobl o ochr bellaf yr eglwys ar wal ddwyreiniol y gysegrfan.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw