Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Mae'n siŵr mai sancteiddrwydd Cybi Sant a'i eglwys yng Nghaergybi yw'r rheswm bod Caergybi ac Ynys Gybi yn cael eu hadnabod yn Saesneg fel Holyhead a Holy Island.
Stori
Mae'r rhan fwyaf o enwau lleoedd Cymru sy'n cynnwys enwau'r seintiau yn digwydd ar ffurf Llan gydag enw'r sant, ac mae lleoedd o'r enw Llangybi (clas, eglwys neu blwyf Cybi) i'w cael mewn mannau eraill yng Nghymru ar Benrhyn Llŷn, yng Ngheredigion ac yn Sir Fynwy. Bydd yr enw Caergybi wedi codi am fod yr eglwys a gysegrwyd i Gaergybi wedi'i lleoli o fewn tiroedd yr hen gaer Rufeinig. Mae'n ymddangos bod yr enw Caergybi yn cael ei ddefnyddio erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, ond anaml y bydd y cofnodion sy'n darparu tystiolaeth o enwau lleoedd yng Nghymru yn mynd yn ôl ymhellach na'r ddeuddegfed ganrif. Roedd ffurfiau ar yr enw Saesneg Holyhead, o'r Hen Saesneg hālig (sanctaidd) a hēafod (pentir) yn cael eu defnyddio erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mae'n ymddangos bod yna dystiolaeth o bresenoldeb Cybi Sant ar Ynys Gybi yn gynharach mewn fersiwn Lladin o Fuchedd Cybi Sant – stori am y sant sy’n cofnodi ei siwrneiau a'i weithredoedd a ysgrifennwyd yn hwyr yn yr unfed ganrif ar ddeg neu'n fwy na thebyg yn y ddeuddegfed ganrif. Ar ôl dadl hir gyda Crubthir Finta yn Iwerddon, mae Cybi’n cael ei herio i adael Iwerddon mewn cwch nad oedd ef a'i gymdeithion wedi’i gorchuddio eto â chrwyn i'w gwneud yn ddiddos. Mae'r cwch yn cael ei chwalu mewn storm ond mae Cybi yn cyrraedd Ynys Môn yn wyrthiol ac mae'n taro craig gyda'i ffon sy'n creu ffynnon sanctaidd.
Yn ôl stori Cybi Sant o’r ddeuddegfed ganrif, daeth y sant o Gernyw yn wreiddiol, ond aeth i Rufain ac yna treulio bron hanner can mlynedd gyda Sant Hilari yn Poitiers. Dychwelodd Cybi i Gernyw ac yna teithio drwy Gymru ac i Iwerddon cyn cyrraedd Ynys Gybi. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roedd ei gysegrfa yn denu pererinion ac roedd yr eglwys yn gartref i gymuned grefyddol.
Mae'n debyg bod presenoldeb Cybi Sant yng Nghaergybi wedi dod i ben ymhell cyn amser y Diwygiad, pan ddinistriwyd y rhan fwyaf o gysegrfeydd a chreiriau’r seintiau. Wrth ysgrifennu ar ddechrau'r bymthegfed ganrif, cofnododd Henry o Marlborough fod cysegrfa Cybi Sant wedi'i symud ymaith gan fôr-ladron ym 1405 a'i chario i Gadeirlan Eglwys Crist yn Nulyn.
Mae'r gyfres o ddelweddau Esgyrn Cybi wedi’i seilio ar y cysylltiad rhwng yr eglwys gadeiriol ac eglwys Cybi Sant yng Nghaergybi. Does dim modd gweld presenoldeb Cybi Sant yn Eglwys Crist erbyn hyn ac ychydig iawn o'r eglwys ganoloesol sydd ar ôl yng nghadeirlan Adfywiad Gothig George Edmund Street o’r 1870au, heblaw ambell gerflun carreg a theils canoloesol. Mae patrymau o'r teils canoloesol hyn wedi’u troshaenu ar batrymau a gafwyd yn y cerfiadau carreg canoloesol hwyr ar ochr ddeheuol Eglwys Cybi Sant yng Nghaergybi, gan ddod â dau gartref canoloesol Cybi Sant at ei gilydd ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Cafodd y delweddau eu harddangos gydag arddangosfa Cysylltiadau Creadigol Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn Ucheldre yng Nghaergybi ym mis Hydref 2022.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw