Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y bocsiwr Frank Moody (1900-63), yn un o saith o frodyr y teulu Moody a oedd yn bocsio. Aeth i weithio yn y pwll glo pan oedd yn 11 oed, ond dechreuodd focsio'n llawn amser yn ystod y 1920au, a bu'n bocsio trwy gydol y 1920au a'r 1930au. Enillodd bencampwriaeth pwysau canol a phwysau godrwm Prydain, ac ymladdodd 52 o weithiau yn America, gan ennill 32 o'r gornestau hyn a dod yn gyfartal yn 9 ohonynt. Roedd ganddo ergyd ffrwydrol a enillodd iddo'r llysenw 'the Pontypridd Puncher', ac roedd yn boblogaidd iawn gyda'r torfeydd gartref ac yn yr Unol Daleithiau.
Ffynhonnell: Amgueddfa Pontypridd

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw