Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cyfweliad Hanes Llafar - Tad Owen McGreal yn rhannu ei atgofion am ei ffrind, y Tad Paul Sartori.
Trawsgrifiad
Presennol: Shamus Buckley (SB), Kiara Quimby (KQ) a Tad Owen McGreal
00:00:06 SB: Bore da Tad Owen a diolch ichi am ddod yma. Alla i ofyn yn gyntaf beth yw eich enw llawn?
00:00:15 OM: Tad Owen McGreal. 00:00:16 SB: Oes caniatâd gennych inni ricordio’r cyfweliad yma? 00:00:20 OM: Gallwch.
00:00:22 SB: Pryd a lle cawsoch eich geni?
00:00:25 OM: Yn Galway, Iwerddon ac fe’m magwyd yno.
00:00:33 SB: Pryd oedd hynny?
00:00:35 OM: 1935.
00:00:36 SB: Sut wnaethoch chi gyfarfod â Tad Sartori?
00:00:40- 1:36 OM: Pan oeddwn yn gurad yn Llanelli yn 1974. Roedd yn offeiriad plwyf yn Hanford West a byddai’n ymweld â’i deulu yn Abertawe yn rheolaidd. Byddai’n galw yn yr henaduriaeth yn Hwlffordd. Roedd Canon Shwartz a Tad Darmody yno a dyna pryd y cyfarfyddais ag ef gyntaf. Roeddem ein dau tua’r un oed a daethom yn ffrindiau. Byddai’n galw am sgwrs yn rheolaidd ar ei ffordd i Llanelli a hynny yn hwyr y nos. Bu’n gurad yn Llanelli am bum mlynedd a byddem yn cyfarfod yn amal a mynd allan am brydau bwyd gyda’n gilydd.
00:01:37 SB: Beth fyddech chi’n dweud oedd eich argraff o’r ohono?
00:01:42- 02:44 OM: Dyn cymdeithasgar a chyfeillgar, hawdd iawn i gyfathrebu ag o. Roedd yn ddoniol, yn gellweirus ac yn llawn hwyl. Roedd diddordeb ganddo mewn pobol a’u lles, nid fel y disgwyliech i offeiriad fod. Roedd yn ymddiddori yn arbennig yn lles pobol anffortunus y byd yma ac ‘roedd tosturi a chydymdeimlad ganddo tuag atynt. Er ei fod ef ei hun o dras dosbarth canol, helpu pobol llai ffortunus oedd ei ddiddordeb pennaf.
00:02:55- 03:04 SB: Cyn inni ddechrau ricordio roeddech yn sôn wrthym am eich hoff hanesion am Tad Sartori. Fyddech chi cystal a’u hailadrodd ar gyfer y ricordiad os gwelwch yn dda?
00:03:06 - 5:23 OM: Gallaf wrth gwrs – rhai o’m hoff hanesion amdano. Gwynebodd ei waeledd angheuol yn hollol bositif a threuliodd dri mis yn Ysbyty Singleton a Sancta Maria. Chollodd o mo’i synnwyr digrifwch a chofiaf fel y byddai’n sôn wrthym am y digwyddiadau rhyfedd. Un o’r rhain oedd pan oedd Esgob Fox ag yntau wedi bod yn ymweld â’r cleifion yn y plwyf. “Diolch i Dduw, Paul bod hynna drosodd” meddai’r esgob. “Ond rhaid ichi ymweld â’r Clwb Llafur” atebodd Paul. “O felly, oes raid imi? meddai’r esgob. Atebodd Paul “Oes, am fy mod wedi betio £10 y buaswn yn mynd â chi yno.” Wel, ichi fe aeth Esgob Fox i’r Clwb Llafur yn ei holl lifrai ac yfed peint hefo’r dynion oedd yno. Stori arall…
00:05:23 SB Y stori garddio?
00:05:24-00:07:29 OM: Fel y gwyddoch, roedd gan Paul ddiddordeb mawr yn y difreintiedig a byddai’r rhain yn dwad at ddrws yr henaduriaeth. Gwyddom oll fod hyn yn digwydd – dyma eu noddfa derfynol a disgwylient i’r offeiriaid I roi cymortgh iddynt. Daeth bachan at y drws a stori fawr fod ei ewythr yn Iwerddon wedi marw ac roedd eisiau arian arno i dalu i fynd i’r Iwerddon ar y fferi o Abergwaun. Rhoddodd Paul swm sylweddol iddo ac i ffwrdd ag o. Nes ymlaen, aeth Paul i’r Clwb Llafur yn ôl ei arfer a phwy oedd yno ond y bachan oedd wedi rhoi yr arian iddo, yn hollol feddw. Aeth Paul o’i gô’ yn gandryll a rhaid oedd ei atal rhag ymosod ar y meddwyn. “A dyma’r arian oedd i dalu’r fferi i’r Iwerddon, ie? Yfed yn y prynhawn.” Dyna’r math o hanes wyddoch ond fuasai hyn ddim yn ei atal rhag helpu.
00:07:30 SB: Roeddech yn sôn fel y bu lladrad yn yr henaduriaeth ac i Paul amddiffyn y lleidr gerbron y llys –
00:07:35-00:09:18 OM: Dyna chi enghraifft arall fel yr oedd calon fawr gen Paul. Torri mewn i’r henaduriaeth wnaeth bachan gan luchio dillad allan trwy’r ffenestr. Galwyd yr heddlu a bu’r bachan o flaen ei well yn y llys ynadon. Bu Paul yno lawer iawn yn amddiffyn pobol a haerodd y tro hwn bod mwy o angen am yr eitemau gan y lleidr. Roedd hanesion o’r fath yn dangos ei ddynoliaeth, ei ymdeimlad i allu darganfod anghenion pobol a’u cefndiroedd allai fod yn gyfrifol am eu hymddygiad.
00:09:19 SB: A chefndir hollol wahanol i’w gefndir ef ei hunan.
00:09:21-00:10:37 OM: Er ei fagwraeth dosbarth canol, roedd ganddo ymwybyddiaeth enfawr o anghenion y rhai anffortunus a difreintiedig. Ei flaenoriaeth oedd y cleifion ac o hyn death ei syniad o sefydlu hosbis. Sylweddolodd mai prin iawn oedd gofal hosbis a’i syniad oedd y dylai fod un. Credaf i’r syniad ddatblygu allan o salwch Mrs Dursley. Doedd unlle iddi fynd. Daeth Paul i gredu y dylai fod lle i gleifion fynd iddo ac nid oedd unlle yn lleol wyddoch.
00:10:38 SB: Ac fel y dywedsoch, bu haelioni ei fodryb yn Jersey yn symbylu ei ddiddordeb.
00:10:48 - 00:11:00 OM: Ie, yn sicir, ei fwriad oedd hosbis preswyl.
00:11:01 SB: Ie
00:11:02-00:12:27 OM: Roedd eisiau adeilad mawr a bu’n edrych ar adeiladau yn Hwlffordd a’r cylch. Pan ymwelais ag o pan oedd yn sâl, byddai’n sôn mwy am yr hosbis nac am ei ddyfodol ysbrydol ei hunan. Gobeithiai y byddai’r prosiect yn parhau ar ôl iddo farw. Yn ddiweddarach, penderfynodd y pwyllgor am sefydlu Hosbis yn y Cartref. Beth tybed fyddai ei ran ef pe bai Duw wedi ei helpu? Byddai’n sicir wedi cytuno â’r prosiect ac wedi derbyn cyngor yr esgob fel y bu imi ei wneud.
00:12:28 SB: Ac ynglŷn â hynny, gadawsoch y pwyllgor gwreiddiol a bod yr esgob wedi penderfynu…
00:12:35 - 00:15:45 OM: Ie yn hollol. Bu Michael Burke, Russ a Mike Stalbo ac eraill yn trafod parhau etifeddiaeth Paul a minnau’n cyfathrebu hefo’r esgob gan ei fod yn ymwneud â’r plwyf. Trafod oeddem ond heb greu dim. Roedd angen caniatâd yr esgob arnom ac fe gawsom gyfarfod ag o. Credai’r esgob bod y syniad yn wych ond nad oedd i fod yn rhywbeth Catholigaidd. Roedd y prosiect yn llawer rhy fawr i’w hymgymryd yn y plwyf. Credai’r esgob na ddylwn fod yn aelod o’r pwyllgor a bu’n cefnogi ac annogi’r gweithwyr. Fe sefydlwyd y pwyllgor swyddogol. Doeddwn i ddim yn rhan ohono. Roedd llawer yno gan gynnwys Canon Harvey oedd yn gyfaill mawr hefo Paul Sartori. Wrth gwrs, rwyf yn adnabod rhai o aelodau’r pwyllgor. Fe ddechreuwyd sefydlu’r hosbis a chael statws elusennol ar fyrder. Rwyf yn sicir y byddai Paul wedi cytuno â hynny a’r esgob hefyd. 00:15:46 SB: Allech chi ail-adrodd wrthym am yr amser pan oedd Paul yn Ysbyty Withybush a’r esgob wedi derbyn y newydd bod diagnosis salwch Paul yn angheuol a bod yn rhaid rhoi gwybod iddo.
00:15:58- 00:22:29 OM: Ar y dechrau, roedd Paul yn Withybush a bu’r arbennigwyr yn egluro’r driniaeth i’r esgob a canon Sheamus Kanan. Roedd cyflwr Paul yn ddifrifol iawn a byddai angen gofal lleddfol arno. Doedd pethau ddim yn hawdd i’r un ohonynt ac er bod Sheamus yn ffrindiau mawr hefo Paul, rhaid oedd iddo roi’r newydd trist i’w gyfaill. Yn ôl Sheamus, derbyniodd Paul y newydd heb lawer o emosiwn a’i fod angen hanner awr i feddwl am y peth. Pan ddychwelodd Sheamus, roedd Paul mewn tymer wahanol iawn. “Os yw Duw fy eisiau” meddai “gallaf dderbyn y peth ond rhaid iddo fod yn barod am frwydr. Nid wyf am eistedd o dan hwn ac rwyf eisiau’r triniaethau i gyd bob un.” Credaf imi grybwyll dau beth – grym gweddi a gweddïau’r plwyf. Gall Duw a gweddïau newid pethau. Aeth Paul i Ysbyty Singleton ac mor belled ag y gwn i, yn ei flaen i Sancta Maria. Dyna fel yr oedd bob amser. Dioddefodd driniaethau lawer yn enwedig yn ysbyty Singleton. Ymwelais ag ef yn amal. Oedd, roedd croes feichus arno ond roedd yn dygymod â hi. Mae hanes arall pan oeddwn yn ymweld ag ef yn yr ysbyty. Roedd ei deulu yno ar y pryd a gofynnodd imi ei weld ar ben ei hun wedi iddynt ymadael. “Mae yna faterion y dylem eu trafod gan ymhen yr wythnos, gallwn fod yn ‘doolally’ ac yn methu siarad â neb. Felly, byddai’n syniad da inni eu trafod rwan.” Buom yn trafod lawer iawn ac nid wyf am ymhelaethu y materion personol ond gallaf ddweud am ei esgeulustod llwyr mewn llyfrifeg. Roedd am imi gywiro a chyfoesi trosto. Roedd y sgwrs yn emosiynol ac yn ormod imi fel y torrais i lawr. “Aros, ngwas i, aros. Fi sy’n marw, dim ti.” Dyna’r math o berson ydoedd a deuthum yn ataf fy hun. Fe gofiaf am hyn am byth. Rhaid imi bwysleisio fel yr oedd Paul yn esiampl aruthrol sut i ddygymod â salwch angheuol a hynny heb roi fyny.
00:22:29 SB: Ie, dyna ochor iddo na fyddai ei blwyfolion a’r bobol ddaeth i’w weld yn ei adnabod. Mae’n bwysig felly i ricordio hynny –
00:22:33 OM: Ydi, yn bwysig iawn.
00:22:49 SB: Anodd i chi ateb y cwestiwn nesaf yma a chithau wedi dweud cymaint amdano ond dyma fo – pa dri gair fyddech chi’n crynhoi Paul Satrori
00:23:02 OM: Allwn i ddim dweud rhagor ond hoffwn bwysleisio ei fod yn boblogaidd, yn gyfeillgar a chymdeithasgar. Dyn y bobol ydoedd. Roedd bywyd Paul yn ysbrydol a duwiol ac er nad oedd o yn credu ei fod yn ymgysegru rhan fawr o’i fywyd i’r ysbrydol, credaf y byddai. Dywedai llawer o bobol y byddai’n berson hollol wahanol pan oedd yn cymryd yr offeren i’r hyn ydoedd y tu allan i’r eglwys. Sylwodd pobol mor wahanol ydoedd pan oedd yn ei ddillad offeiriad wrth yr allor. Byddai’n gweddïo ac yn sicir roedd ganddo fywyd ysbrydol dwfn. Offeiriad ydoedd, dim byd arall. Mor belled ag y gwelaf, roedd ei ragoriaethau ar ddau lefel. Roedd yn offeiriad ysbrydol ac hefyd yn weinidog, yn berson tosturiol a llawn gofal.
00:24:52 SB: O dan y cyfan, mae sylfaen.
00:24:56 OM: Yn hollol. Does dim amheuaeth iddo symud oddi wrth y ddelwedd o’r hyn y dylai offeiriad fod. Roedd yr hen syniad am offeiriad y gysegrfa yn traddodi’r offeren ac adrodd y gweddïau ymhell o weledigaeth Paul. Pan ddywedir mai gweledigaeth yr hosbis ydyw gofalu am bobol gyffredin a’u anghenion mewn argyfwng gofidus ar ddiwedd eu bywydau, dyna oedd gweledigaeth Paul a’r hyn y dylai offeiriad ei wneud.
00:25:51 SB: Fe ddywedsoch fod pobol o bob enwad yn gofyn i Paul eu helpu i drefnu angladdau.
00:25:56 – 27:12 OM: Ie, yn sicir. Byddai pobol eisiau iddo eu helpu i drefnu gwasanaethau crefyddol er nad oedd ganddynt ymroddiad i gapel nac eglwys. Daethent i wybod y byddai Paul yn eu helpu ac fe wnai hynny yn aml, yn enwedig yn yr amlosgfa. Doedd hynny ddim yn broblem gan yr eglwys – byddaf yn gwneud yr un peth fy hunan. Credai Paul y dylai pobol gael gwasanaeth crefyddol os oeddent yn dymuno hynny ac roedd o yn barod i ymgymeryd â hyn. A’r rheswm oedd ei fod yn eu adnabod.
00:27:13 SB: Dyna oeddwn yn ei ddweud. Nid offeiriad y gysegrfa yn unig oedd Paul ond allan ymysg y bobol fyddai fel mae pobol yn dweud heddiw. Mae’n dda clywed offeiriad i fyny ger yr allor sydd yn adnabod yr ymadawedig yn lle –
00:27:17 OM: Ie, yn hollol. Gallai ddeall wyddoch ac roedd yn gymdeithasol a chanddo ffrindiau da ymhlith y clerigwyr lleol, yn enwedig Canon Harvey, offeiriad plwyf a ficer St Martins sydd wedi ymddeol ac yn byw yn Dinbych y Pysgod.
00:27:55 SB: Felly, fe ddylem siarad ag ef.
00:27:57 OM: Roedd yn adnabod Paul a byddai’n rhan o’r gynulleidfa ond wn i ddim beth yw cyflwr iechyd John ar hyn o bryd.
00:28:11 SB: Oes unrhywbeth arall yr hoffech sôn amdano?
00:28:17 - 00:29:48 OM: Yr hyn yr hoffwn bwysleisio yw mai dyn y bobol oedd Paul. Roedd yn offeiriad oedd yn ymwybodol o anghenion y difreintiedig a’r angen i’w helpu. Dyna oedd ei weledigaeth ac sydd heddiw i’w gweld yn y sefydliad yn ei enw. Yn bersonol wyddoch, credaf fel y dywedais yn yr offeren mai sefydliad Paul Sartori yw ei etifeddiaeth fawr. Byddai Paul yn falch o’r hyn mae’r sefydliad wedi ei gyflawni. Trwy’r sefydliad mae ei weledigaeth ef yn parhau a llwyddiant Paul fel yr arweinydd ysbrydoledig yn rhan anatod o’r cyfan. Rwyf yn falch iawn o’r hyn oll yr ydych yn ei gyflawni.
00:29:49 SB: Rydym yn ddiolchgar iawn ichi am ddod yma i siarad am Paul gan fod gennych ddealltwriaeth amdano.
00:29:57 OM: Ie, mae llawer mwy…
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw