Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Roedd llongddrylliad ofnadwy Royal Charter yn cynnwys holl elfennau stori gyffrous: nifer fawr o farwolaethau, aur wedi’i wasgaru ar y lan, a’r newyddion yn cyhuddo pobl Moelfre o ysbeilio’r llongddrylliad a chwilio cyrff y dioddefwyr am ysbail.

Stori
Roedd llongddrylliad ofnadwy Royal Charter ym 1859 yn cynnwys holl elfennau stori gyffrous: nifer fawr o farwolaethau a chyfoeth ar ffurf aur o Awstralia. Gwelwyd dynion yn ‘pigo sofrenni o dyllau ac agennau y creigiau, fel pe baent yn pigo pysgod cregyn.’ Roedd y newyddion yn cyhuddo pobl Ynys Môn o ysbeilio’r llongddrylliad a dinoethi cyrff y dioddefwyr a oedd wedi golchi ar y lan.

Roedd cliper ager Royal Charter wedi gadael Melbourne, Awstralia ym 1859, ac roedd wedi galw yn Cobh cyn ei throi hi am Lerpwl gan groesi Môr Iwerddon. Yna, gwelwyd un o’r hyrddwyntoedd cryfaf a gofnodwyd erioed, a gwthiwyd y llong yn erbyn y clogwyni ger Moelfre, Ynys Môn. Mae cofebau wedi’u codi yno i gofio’r 500 o bobl a fu farw, ond nid ydynt yn dangos cyfoeth y straeon sy’n deillio o’r diwrnod tynghedus hwnnw.

Galwyd ar Gapten Meds o H.M.S Hastings i ddiogelu’r cargo gan ei fod ‘yn cael ei ysbeilio gan y brodorion.’ Roedd papur newydd Seisnig, gan ddefnyddio rhethreg ymfflamychol, wedi honni bod criwiau o ysbeilwyr [Moelfre] wedi heidio i Fae Moelfre ... gan syrffedu eu cledrau dwylo coslyd gyda thrysor y meirw.’ Roedd papur newydd Cymraeg lleol wedi ei dweud hi’n hallt am bobl am ysbeilio’r llongddrylliad ac am ddwyn anfri ar Ynys Môn: 'Y llong yn ddarnau, a phobl y wlad yn ysbeilio!

Nid oedd y cyhuddiadau hyn yn annhebyg i golofnau newyddion a oedd yn disgrifio ‘ysbeilwyr’ yn anrheithio llongau a oedd wedi dryllio ar hyd arfordir Cernyw. Fel y straeon hynny, mae angen ymchwilio i’r cyhuddiadau. A oedd pobl Moelfre yn euog o gyflawni’r fath ‘anwareidd-dra’ ac ‘ysbeilio’?

Roedd ganddynt eu hamddiffynwyr; roedd Caernarvon and Denbigh Herald wedi argraffu amddiffyniad angerddol yn erbyn y cyhuddiadau enllibus. Canmolwyd pobl leol yn nhystiolaeth y sawl a oedd wedi goroesi. Cyfaddefodd Liverpool Daily Post nad oedd angen Gwylwyr y Glannau a’r milisia i atal ysbeilio ‘er clod gwerin bobl Ynys Môn.’ Roedd gohebydd o Fiwmares hyd yn oed wedi cyfaddef bod y bobl a welodd yn casglu sofrenni wedi eu rhoi i’r Casglwr Tollau.

Felly ai stori nad oedd yn stori mewn gwirionedd oedd hon? Ddim yn hollol.

Yn Sesiwn Fach Menai ar 7 Tachwedd 1859, ychydig dros wythnos ar ôl y llongddrylliad, rhoddwyd William Parry, a oedd yn bedair ar ddeg oed, ar brawf am ddwyn oriawr aur o’r traeth; rhoddwyd Henry Roberts ar brawf am gymryd modrwyon aur a biliau cyfnewid papur wedi’u tynnu o fanc yn Awstralia; a rhoddwyd David Edwards ar brawf am ddwyn crys, siaced Guernsey ac angor.

Roedd ‘dwyn o longddrylliad’ yn drosedd dan Ddeddf Llongau Masnach 1850. Gallai unrhyw un y byddent yn cael eu canfod yn dwyn unrhyw ran o longddrylliad neu gargo gael dirwy o £50 a chosbau eraill, gan gynnwys cyfnod yn y carchar. Roedd y ddeddf yn israddio’r gosb o ffeloniaeth ddihenydd. Mae’r adroddiadau am y treialon yn awgrymu sut yr oedd pobl Ynys Môn wedi dehongli gweithred ‘dryllio’. Mae’n amheus a oeddent yn deall y gyfraith; roedd masanchwyr a chyfreithwyr yn dadlau ynghylch ei ystyr.

Roedd William Parry yn credu y gallai hawlio dillad o’r lan. Cyfaddefodd ei fod wedi cymryd rhai ‘trowsers’ a ‘chlytiau’ wrth guddio’r oriawr. Dywedodd David Edwards hefyd wrth yr heddlu ‘nad oedd unrhyw ddrwg’ mewn cymryd y crys a’r siaced Guernsey. Mae’r gred hon yn cyd-fynd ag enghreifftiau eraill a welwyd ar hyd a lled Prydain lle’r oedd pobl yn credu bod ‘deunydd o longddrylliadau’ a oedd yn golchi ar y lan yn ‘rhodd’ gan y môr (neu gan Dduw).

Roedd Parry yn gobeithio y byddai perchennog yr oriawr yn cynnig gwobr. Roedd Roberts yn dymuno cael gwobr hefyd. Yn wir, nid oedd yn ymddiried yn y swyddogion wrth safle y llongddrylliad, a honnodd ei fod yn bwriadu cyflwyno’r modrwyon aur a’r biliau cyfnewid i’r Derbynnydd Llongddrylliadau ym Miwmares. Roedd ei achos yn amlygu profiadau blaenorol yr oedd pobl leol wedi eu cael gyda swyddogion gorfodi’r gyfraith ynghylch pethau achubedig. Pan gollwyd Rothsay Castle ym 1831 ger Moelfre, ni thalwyd nifer o bobl dlawd am y pethau yr oeddent wedi eu darganfod.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd taliadau adfer mewn perthynas â llongddrylliadau yn aml yn cael eu talu yn y fan a’r lle. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y broses dalu yn rhan o fiwrocratiaeth y llywodraeth. Yn aml, byddai ‘dryllio’ yn digwydd pan na fyddai pobl yn ymddiried yn yr awdurdodau, gan gymryd nwyddau o longddrylliadau fel taliad adfer eu hunain.

Mae tro annisgwyl yn achos David Edwards. Pan gafodd ei arestio am ‘ddwyn’, roedd yn gweithredu dan awdurdod rheithor lleol, Parch. Stephen Roose Hughes, a oedd wedi gofyn i bobl gasglu pa eitemau bynnag y gallent eu darganfod a dod â nhw ato ef, er mwyn iddynt allu cael eu defnyddio i adnabod y dioddefwyr.

Dim ond un euogfarn a welwyd o’r tri arestiad – carcharwyd William Parry am bedwar diwrnod ar ddeg, ‘fel esiampl i bobl arall yn y gymdogaeth.’ Yna, rhoddwyd Henry Roberts ar brawf yn y brawdlys am ffeloniaeth, lle y taflwyd ei achos allan gan ei fod yn feddw. Taflwyd achos David Edwards allan ar ei ben.

Nid oedd yr achosion yn cefnogi’r rhethreg a welwyd yn y wasg. Wrth gwrs, efallai mai dwyn bwriadol oeddent. Fel y tystiodd swyddog Gwylwyr y Glannau: ‘pe bai dyn yn cydio mewn sofren trwy ddamwain ac yn ei rhoi yn ei boced, pwy fyddai’n ei feio!’ Yn wir. Yn ystod cwêst cyntaf y crwner, nodwyd ‘bod yr adroddiad ynghylch ysbeilio gan frodorion yn hollol ddi-sail.’ Ond hefyd: ‘ceir awgrym yma [...] bod gofyn i’r rhai sy’n cael eu talu i wylio dros eiddo llongddrylliadau gael eu “gwylio” rhyw ychydig eu hunain’!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw