Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Treuliodd yr awdur a’r dychanwr enwog Jonathan Swift lawer o amser ar Fôr Iwerddon wrth iddo deithio’n ôl a blaen rhwng Llundain a’i gartref yn Nulyn. Yn ystod hydref 1727 fe dreuliodd ychydig ddyddiau cofiadwy yng Nghaergybi ar y ffordd yn ôl i Iwerddon yn dilyn llwyddiant Gulliver’s Travels, pan gafodd ei hun ar drugaredd y tywydd.
Ym mis Medi 1727 cychwynnodd Jonathan Swift ar daith yn ôl i Iwerddon o Lundain. Ac yntau’n Ddeon yng Nghadeirlan Sant Padrig yn Nulyn, roedd wrthi’n mwynhau llwyddiant mawr gyda Gulliver’s Travels a oedd newydd ei gyhoeddi. Ond roedd hefyd ar bigau’r drain yn aros i glywed rhywbeth am ei ffrind a’i gariad Esther Johnson (‘Stella’ ei farddoniaeth) a oedd yn ddifrifol wael yn Nulyn. Roedd Swift ar gymaint o frys i gyrraedd adref nes i rwystrau yng Nghaer beri iddo droi i’r gogledd a dilyn llwybr mynyddig peryglus am Gaergybi, yn y gobaith o gael lle ar long bost. Ond wedi cyrraedd Caergybi roedd rhagor o rwystrau’n ei aros, a methodd gyrraedd Dulyn cyn dechrau mis Hydref. Bu farw Stella bedwar mis yn ddiweddarach.
Mae’r ddwy gerdd a gyfansoddodd yng Nghaergybi, ynghyd â’r hyn a gofnododd mewn dyddiadur yn ystod y saith niwrnod a dreuliodd yno, yn fynegiant huawdl a chofiadwy o’i ddicter am gael ei ddal ‘in the worst spot in Wales, under the very worst circumstances’, fel y nododd yn ei ‘Holyhead Journal’.
Ac yntau mor rhwystredig, ceisiodd Swift ysgrifennu ei ffordd allan o’i amgylchiadau, ac yn y gerdd ‘Holyhead. Sept. 25. 1727’ mae’n rhoi tragwyddol heol i’w gynddaredd:
Lo here I sit at Holy Head
With muddy ale and mouldy bread
All Christian vittals stink of fish,
I’m where my enemies would wish.
Convict of lies is every Sign,
The inn has not a drop of wine
I’m fastened both by wind and tide,
I see the ship at anchor ride.
The Captain swears the sea’s too rough,
He has not passengers enough.
And thus the Dean is forc’d to stay
Till others come to help the pay.
Ac yntau’n enwog am ei dymer ddrwg, rhefrodd a rhuodd nid yn unig am ei anffawd ei hun ond hefyd am drafferthion mwy cyffredinol yr elite Eingl-Wyddelig a oedd mor ddibynnol ar y môr i gadw mewn cysylltiad â Phrydain ond a oedd felly ar drugaredd ei natur anwadal. Mae gwyntoedd y de-orllewin yn golygu ei bod yn fwy cyffredin hyd heddiw i longau fod yn gaeth i borthladdoedd ar ochr Cymru nag Iwerddon ac mae’n ddigon posibl fod llawer iawn o Wyddelod yn dal i orfod ysgrifennu negeseuon digon tebyg o Gaergybi, boed hynny ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn negeseuon testun.
Cysylltid Caergybi a Llundain gan rwydwaith o lonydd a rheilffyrdd a chanddynt hanes amlhaenog: mae ffordd Caergybi (‘Yr Holihed’), neu’r A5 erbyn heddiw, yn dilyn hen ffordd Rufeinig a redai o ogledd Cymru, drwy Amwythig a’r gororau, yr holl ffordd i’r Marble Arch heibio i Cricklewood a Kilburn. Dechreuwyd ar y gwaith o foderneiddio’r ffordd yn gynnar yn y 1800au pan adeiladodd Thomas Telford ei bont grog dros y Fenai a gwella’r lôn.
Yng nghyfnod Swift, serch hynny, roedd y daith yn un enbyd. Gadawodd Gaer am un ar ddeg fore Gwener, 22 Medi. Teithiodd saith milltir ymhellach ac aros mewn tafarn cyn mynd rhagddo am bymtheg milltir arall cyn belled â Rhuddlan, lle treuliodd y noson, gan wledda ar ‘bad meat, and tolerable wine’. Gadawodd ‘a quarter after 4 morn. on Saturday’ ac yna aros noson arall yng Nghonwy cyn teithio ymlaen i Fangor. Yna fe groesodd ef a’i was y Fenai ychydig y tu hwnt i’r ddinas ac aros wedyn mewn tafarn ddwy filltir ar hugain o Gaergybi, ‘which if it be well kept, will break Bangor’.
Cychwyn eto am bedwar y bore, yn y gobaith o gael bod yng Nghaergybi mewn da bryd ar gyfer gwasanaeth yn yr eglwys. Araf oedd y daith, fodd bynnag, ac a hwythau o fewn saith milltir i Gaergybi, bu’n rhaid iddynt aros yn Llangefni i orffwys am ddwyawr. Cafodd Swift a’r gwas ill dau drafferth efo’u ceffylau, a doedd dim amdani ond cerdded y milltiroedd diwethaf ‘on rocky ways’ cyn iddynt o’r diwedd ddod o hyd i of. Erbyn hyn, roeddent o fewn tair milltir i Gaergybi. Gadawsant y ceffylau i gael eu pedoli ‘and walked to a hedge Inn 3 miles from Holyhead; There I stayd an hour, with no ale to be drunk. a Boat offered, and I went by Sea and Sayl in it to Holyhead.’ Y nos Sul honno, fe gysgodd yng Nghaergybi.
Arhosodd Swift yn y dref am bedwar diwrnod, ar bigau’r drain gydol yr amser wrth iddo aros am lythyr neu ryw newydd o Ddulyn. ‘I confine my self to my narrow chambr in all the unwalkable hours’, meddai, gan gwyno nad oedd ‘The Master of the pacquet boat, one Jones, hath not treated me with the least civility, altho Watt gave him my name. In short: I come from being used like an Emperor to be used worse than a Dog on Holyhead.’ Bu’n crwydro’r ardal dan graffu’n ofer am ryw olwg o arfordir Iwerddon ar y gorwel neu am argoel o newid yn y tywydd. Er gwaethaf (neu efallai oherwydd) ei ddigalondid, mae ‘Holyhead Journal’ Swift yn dal i gael ei ystyried yn un o’r darnau gorau erioed o lenyddiaeth porthladd.
Tamaid hanesyddol
Er gwaethaf holl gwynion Swift, daeth Caergybi i fod yn rhyw fath o ddinas noddfa yn ei ddychymyg. Ar 21 Hydref 1735, ysgrifennodd at Alexander Pope, ‘as one going very fast out of the world’, gan ddatgan bod ‘my flesh and bones are to be carried to Holy-head, for I will not lie in a country of slaves’.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw