Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Cawl yw'r fersiwn Cymreig o stiw Gwyddelig (lobsgóws) a Sgot-brywes: talp o gig (neu asgwrn cigog) wedi'i goginio yn araf ac am amser hir dros y tân gyda chennin, tatws, winwns a gwreiddlysiau eraill, gan daflu llond dwrn o geirch i mewn ar y diwedd.

Stori
Rhwng yr arfordir digysgod ac asgwrn cefn folcanig creigiog y tir uwch ben Abergwaun ac Wdig, nid yw pridd asid penrhyn Pencader fyth wedi cynnig cynaeafau cyfoethog. Mae cnwd tatws cynnar sir Benfro yn enwog, ond ers talwm, roedd gwreiddlysiau yn brif elfen coginio cyffredin, ynghyd â cheirch a haelioni annibynadwy y môr. Ond arferai pob fferm gadw mochyn a chymaint o ddefaid ag y byddai modd eu pori. Byddai'r cig gorau yn cael ei werthu yn y farchnad, gan adael y gweddill i'r teulu.

Cawl – sy'n golygu sŵp neu stiw yn syml – yw'r fersiwn Cymreig o stiw Gwyddelig a Sgotbrywes: talp o gig (neu asgwrn cigog) wedi'i goginio yn araf ac am amser hir dros y tân gyda chennin, tatws, winwns a gwreiddlysiau eraill, gan daflu llond dwrn o geirch i mewn ar y diwedd. Byddai modd gweini'r potes fel cwrs cyntaf, a'r bwyd solet fel yr ail gwrs, a byddai unrhyw beth dros ben yn cael ei fwyta fel pryd yn ystod yr wythnos, gydag ychydig fara a chaws fel arfer.

Mae gan bob teulu ei fersiwn ei hun o gawl, ac mae'r hyn sy'n cael ei ffafrio yn gallu bod yn destun dadleuon chwyrn: a ddylid ffrio'r cig yn gyntaf neu beidio, a ddylid cynnwys pannas neu beidio, ac ati. Bob hydref yn Abergwaun, cynhelir “crwydr cawl” o gwmpas tafarndai a bwytai y dref, wrth i bobl fynd o gwmpas yn blasu'r hyn sydd gan bawb i'w gynnig, gan roi marciau er mwyn pennu enillydd y flwyddyn honno.

Ym 1980, cyhoeddodd Bobby Freeman, perchennog bwyty yn Abergwaun, menyw sy'n dwli ar ei bwyd a chefnogwr brwd cynnyrch Cymreig, ganllaw i fwyd Cymreig a llyfr coginio o'r enw First Catch Your Peacock. Neilltuodd wyth dudalen i gawl, gan gynnwys cerdd gan Dewi Emrys (1881-1952), bardd lleol a dreuliodd ei blentyndod ar Bencaer ac a fynychodd yr ysgol yn Abergwaun. Mae ei gerdd Pwllderi yn sôn am ei atgofion o'r ardal honno ac mae'n cynnwys un pennill sy'n canmol cawl:

Dim ond un tŷ sy'n agos ato,
A hwnnw yng nghesel Garn Fowr yn cwato.
Dolgâr yw ei enw, hen orest o le,
Ond man am reso a dished o de,
Neu ffioled o gawl, a thina well bolied,
Yn genin a thato a sêrs ar'i wmed.
Cewch weld y crochon a dribe ino,
A'r eithin yn ffaglu a chretshan dano.
Cewch lond y lletwad, a'i llond hi lweth,
A hwnnw'n ffeinach nag un gimisgeth;
A chewch lwy bren yn y ffiol hefyd,
A chwlffyn o gaws o hen gosin hifryd,
Bara gwenith yn dafell lidan,
A chig ar drenshwn mor wyn â’r arian.

‘Pwllderi’ gan Dewi Emrys

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw