Skip to main content

Mike Munro: 'Gwerthu Hufen Iâ Cymru ar lan y Môr' (2021)

Disgrifiadau

Lede
Agorodd Mike Munro ei fan hufen iâ yng Nghaergybi wrth i'r dref ddod allan o gyfnod clo’r pandemig.

Stori
Dwi wedi bod yn gyrru lorïau ers 30 mlynedd. Yn y blynyddoedd dwetha dwi wedi bod yn dosbarthu bwyd i brif ganolfannau’r archfarchnadoedd, felly mi fues i’n gweithio drwy'r cyfnod clo i gyd.

Dwi’n byw yn Ynys Môn ers naw mlynedd, ond yn y tair blynedd dwetha, ar ôl ysgaru, roeddwn i’n teithio'n ôl i Fanceinion i weithio. Ac fel tad i dri o blant sydd efo mi am 50% o'r amser, dyna oedd yr unig ffordd o wneud i fywyd weithio. Ond ar ôl tair blynedd o deithio i Fanceinion, roeddwn i'n gwybod bod angen imi wneud rhywbeth gwahanol.

Gweles i fusnes hufen iâ ar werth ac fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i sefydlu fy musnes fy hun. Codes i fenthyciad personol a ches i lawer o help ac arweiniad gan Busnes Cymru, ac roedd pobl Cyngor Sir Ynys Môn yn barod iawn eu cymorth hefyd. Cymerodd hi saith mis imi sefydlu'r busnes, a dyma fi’n agor ar yr union adeg y daethon ni allan o’r cyfnod clo llwyr ym mis Ebrill 2021.

Roeddwn i am i bopeth ynglŷn â'r busnes ddod o Ynys Môn neu Gymru, a defnyddies i gwmnïau lleol gymaint â phosibl. O Seren Embroidery ar gyfer fy nghrysau, i hufen iâ Môn Ar Lwy, i gyflenwadau bwyd Harlech ac offer diffodd tân gan Môn Fire Management. Dwi wedi gwneud cwrs Cymraeg yn ysgol fy mhlant yn y gorffennol, a dwi’n mwynhau rhoi cynnig ar fy Nghymraeg efo rhai o'r cwsmeriaid.

Roedd yna ddynes oedd yn arfer rhedeg y faniau hufen iâ lawr ar Draeth Newry am flynyddoedd - daeth hi i'm gweld i pan ddechreues i. Mi ddymunodd yn dda i mi a rhoi ambell i beth i mi i'm helpu ar y fan. Roedd hynny'n golygu llawer i mi ac yn garedig iawn. Mae'r ymateb gan y gymuned leol a phobl ar eu gwyliau wedi bod yn gadarnhaol iawn: mae'n ymddangos bod yr hufen iâ yn mynd i lawr yn dda iawn! Dwi wrth fy modd efo’r ffordd newydd o fyw; mae gen i olygfa wych o'r fan yn edrych allan dros yr harbwr i lawr ar Draeth Newry yng Nghaergybi, a dwi’n cael sgwrsio â phobl hapus braf drwy'r dydd.

Owner:
Ports, Past and Present
Crëwr:
Mike Munro
Gwybodaeth drwydded
CC BY 4.0 International License
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
30/5/2023
Gwelediadau:
347
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment