Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Efallai bod y traeth yn Wdig yn ymddangos yn wastad ac yn undonog, ond peidiwch â chael eich twyllo.

Stori
Ewch i sefyll ar y Parrog yn Wdig pan fo'r llanw yn isel ac edrychwch draw am derfynfa y fferi. O'ch blaen, gwelwch ehangder mawr o dywod gwastad, sy'n ddigon cadarn i chi gerdded arno, ond sy'n cynnwys myrdd o byllau hyd at y fferau. Ar yr ochr bellaf, dan ffrâm y nenbont ddur ar ochr draw y ffordd, gwelir creigiau cymysg hen fagl bysgod. Ar y tywod, gellir gweld ychydig siapiau mwy tywyll yn ymddangos. Rhagor o greigiau? Neu efallai rhywbeth ychydig yn wahanol?

Rhywbeth ychydig yn wahanol yw'r ateb, gan bod Traeth Wdig yn llawn olion archeolegol. Mae rhai yn ddiweddar iawn – hen botiau cadw a sylfeini angorfeydd – ac mae eraill yn hŷn, ac i archeolegydd môr, maent yn fwy diddorol. Lleolir o leiaf ddau longddrylliad yma, a dim ond pen y fframiau a rhai estyllod a welir o'r rhain yng nghrychau'r tywod. Mae'n hawdd eu methu, hyd yn oed pan fyddwch yn sefyll wrth eu hymyl, ond mae eu hamlinelliadau yn awgrymu ei bod yn debygol bod darnau mawr o gorff y llong wedi cael eu diogelu dan eich traed. Dim ond trwy dynnu llun o'r awyr y gellir datgelu eu maint yn llawn.

Mae'r llongddrylliad cyntaf, a gaiff ei labelu yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NMRW) fel ‘Llongddrylliad 1 Wdig’, 100m i'r gogledd-ddwyrain o lithrfa Ocean Lab. Mae'n llong fechan, tua 15m o hyd ac yn gorwedd ar ei hochr o bosibl – mae'n anodd iawn dweud o'r olion sydd yn y golwg. Mae gwaith maes archeolegol a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW) wedi bod yn profi geoffiseg
archeolegol ar y safle er mwyn gweld pa mor effeithiol ydyw pan gaiff ei ddefnyddio ar draeth. Mae defnyddio'r dechneg hon mewn safle y mae'n hysbys ei fod yn cynnwys llongddrylliad, ond y mae'r rhan fwyaf ohono dan y wyneb, yn berffaith er mwyn profi pa mor dda y mae'r math hwnnw o ddeunydd archeolegol yn ymddangos. Mae RCAHMW wedi bod yn gwneud gwaith tebyg ym Mhorth Mawr ger Tyddewi ac ar Draeth Albion ger Marloes.

Ond beth am fanylion Llongddrylliad 1 Wdig? Ar hyn o bryd, nid yw enw a chefndir y llong yn hysbys. Ond mae NMRW yn cynnwys cofnodion am dri deg pedwar o longau a gollwyd ar Draeth Wdig yn unig, a nifer fwy ym Mae Abergwaun. Pan fyddwn yn deall yr olion archeolegol yn llawn, dylai fod modd eu cyfateb gyda chofnodion hanesyddol. Yn y cyfamser, rydym wastad yn chwilio am hen ffotograffau, cardiau post, darluniau neu gofnodion hanesyddol eraill sy'n cyfeirio at neu sy'n dangos llongau ar Draeth Wdig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw