Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Cynhaliodd y Weithrediaeth Gweithrediadau Arbennig (SOE) amrediad o weithrediadau cudd-wybodaeth a difrodi yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ac ym 1943, sefydlont orsaf ymchwil gyfrinachol er mwyn treialu llongau ymsuddol bychain ym Mae Abergwaun.

Stori
Ym mis Gorffennaf 1943, cynigiodd Gweithrediaeth Gweithrediadau Arbennig (SOE) llywodraeth Prydain y dylid cynnal treialon cyfrinachol a sefydlu canolfan hyfforddi yn Abergwaun/Wdig ar gyfer ei llongau ymsuddol bychain arbrofol a gynlluniwyd i gynorthwyo gweithgarwch rhagchwilio, difrodi ac ysbïo yn nyfroedd tiriogaethol y gelyn yn Ewrop ac yn Ne-Ddwyrain Asia. Roedd y llongau hyn yn cynnwys llong danfor Welman ar gyfer un dyn, a adeiladwyd yn Morris Motors yn Rhydychen ac a brofwyd yn gyntaf yng Nghronfa Ddŵr Brenhines Mary i'r gorllewin o Lundain, yn ogystal â llong danfor fechan iawn Welfreighter, a ddyluniwyd i ddosbarthu cyflenwadau a hyd at bedwar asiant y tu ôl llinellau'r gelyn.

Roedd personél milwrol uwch wedi mynegi pryder am ddiogelwch y porthladd a pha mor briodol ydoedd er mwyn cynnal treialon môr cudd. Mewn negeseuon cyfrinachol iawn, esboniodd Capten A. J. L. Phillips, Cyfarwyddwr Amddiffyn Lleol, sut y gallai Abergwaun fod yn risg diogelwch gan ei fod yn delio gyda thraffig ar y môr o diriogaethau niwtral megis 'Iwerddon a phenrhyn Iberia', a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Guddwybodaeth Lyngesol, J. H. Lewes:

O ystyried y traffig o Iwerddon yn y Porthladd ac am y rhesymau eraill a nodwyd..., barnir y byddai dewis Abergwaun fel lleoliad ar gyfer sefydliad hyfforddiant yn benderfyniad annoeth.

Awgrymwyd Helford ar Benrhyn Madfall yng Nghernyw fel lleoliad amgen, ond gyda'i ddefnydd dwys gan y cynghreiriaid ar gyfer gweithrediadau ar draws y sianel i Ffrainc, gwrthodwyd y pryderon ynghylch diogelwch yn y diwedd a dewiswyd Abergwaun fel lleoliad gorsaf arbrofol IXc. Yn hwyr yn ystod yr haf 1943, cytunwyd y byddai pymtheg swyddog yn aros ar ail lawr yr hyn a arferai fod yn Westy Bae Abergwaun Great Western Railway yn Wdig, a byddai tri deg pump o staff eraill yn cysgu mewn cabanau ar y cei. Roedd Gorsaf IXc yn gangen o'r Biwro Ymchwil Rhyng-Wasasnaeth (ISRB), is-adran offer arbrofol SOE yr oedd ei bencadlys yn The Frythe ger Welwyn Garden City – felly rhoddwyd rhagddodiad 'Wel' i'w holl llongau prototeip. Er y cynhaliwyd treialon arbrofol o long danfor Welman yn yr Alban yn bennaf, cyrhaeddodd prototeip o'r Welfreighter, a oedd yn llawer mwy, yn Abergwaun ar gyfer ei threialon addasrwydd i'r môr ym mis Chwefror 1944, gan gymryd rhan mewn treialon ar y wyneb, treialon plymio a threialon gwytnwch ym Mae Abergwaun.

Ni ysgrifennwyd fawr ddim am y treialon cudd ac ni wnaethpwyd fawr iawn o ddefnydd o'r llongau ymsuddol yn ystod y rhyfel. Dywedwyd bod Llyngesydd Arglwydd Louis Mountbatten wedi bod yn frwdfrydig iawn am y prosiect, gan sicrhau bod o leiaf chwe Welman ac wyth Welfreighter yn cael eu hanfon i Awstralia a De-Ddwyrain Asia ar gyfer gweithrediadau'r Cynghreiriaid. Ar ôl y rhyfel, daeth Gwesty Bae Abergwaun yn westy rheilffordd unwaith eto a dim ond ar ôl rhyddhau ffeiliau gan y llywodraeth ym 1972 y daeth yr hanes cudd hwn am y porthladd yn fwy adnabyddus.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw