Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Bu teulu Fenton yn weithgar yn Abergwaun dros sawl cenhedlaeth, gan wneud cryn argraff ar y dref.

Stori
Yr aelod cyntaf o deulu Fenton i gyrraedd Abergwaun – tua diwedd y 18fed ganrif – oedd Isgapten Samuel Fenton, swyddog llynges a drawsnewidiodd hanes pentref pysgota a oedd mor ddibynnol ar y ddalfa leol fel y galwyd ei drigolion yn Sgadan Abergwaun. Roedd Samuel wedi teithio cryn dipyn, a sylweddolodd y byddai modd masnachu'r pysgod ar y cyfandir pe baent yn cael eu cochi yn arddull Môr y Canoldir. Trefnodd bod yr harbwr yn cael ei ymestyn trwy osod morglawdd o garreg solet, cei a warws yno. Bu'r busnes yn hynod lwyddiannus ac am gyfnod, roedd gan y pysgotwyr dipyn o arian yn eu pocedi. Roedd gan Samuel arian hefyd: pan gipiwyd un o'i longau gan herwlong o America, bu'n rhaid iddo dalu pridwerth o £1000 er mwyn atal y pelenni canon rhag taro – ond nid cyn i'w chwaer gael ei hanafu. Gwaetha'r modd, symudodd yr heigiau sgadan i ffwrdd ym 1799, ac ni wnaethant fyth ddychwelyd.

Cyrhaeddodd Richard Fenton Abergwaun yn ystod blynyddoedd olaf ei Ewythr Samuel. Ganwyd Richard yn Nhyddewi ym 1747 a chafodd addysg dda yn Rhydychen ac yn Llundain, lle y bu'n treulio amser yng nghwmni rhai o unigolion mwyaf adnabyddus cylchoedd diwylliannol yr oes, gan gynnwys yr awduron Oliver Goldsmith a Samuel Butler, yr arlunydd Joshua Reynolds a'r actor David Garrick. Dywedir ei fod wedi cyfarfod ei wraig pan yn crwydro strydoedd Llundain gyda Goldsmith. Roeddent wedi cerdded heibio gardd lle'r oedd te-parti yn cael ei gynnal. Gwelodd Richard ferch brydferth, ac fel dyn rhamantus, datganodd y byddai'n ei phriodi – pe byddai modd iddo ei chyfarfod! Cerddodd ei ffrind i mewn yn feiddgar, gan gyfarch y sawl a oedd yn cynnal y te-parti fel pe bai'n hen gydnabod iddo, er nad oedd erioed wedi ei weld o'r blaen. Yn hytrach na chymryd cam gwag cymdeithasol, estynnodd y dyn groeso cynnes iddynt, felly cyfarfu Richard â'r ferch y byddai'n ei phriodi. Ei henw oedd Eloise ac roedd hi'n ferch aristocrat o'r Swistir.

Ar ôl gweithio fel bargyfreithiwr yng Ngogledd Cymru a chael tri mab gydag Eloise, symudodd Richard ei deulu i Abergwaun ym 1793. Pan fu farw ei ewythr dair blynedd yn ddiweddarach, Richard Fenton oedd y prif fuddiolwr ac aeth ati i adeiladu cartref braf a oedd yn addas i fonheddwr. Y safle a ddewiswyd oedd dôl gerllaw afon droellog Gwaun uwchben yr harbwr. Gan gadw treftadaeth ei wraig mewn cof, adeiladodd Richard blasty bychan mewn arddull cyfandirol a'i enwi yn Blas Glynamel: ‘dyffryn mêl' mewn Cymraeg gwael. Yn unol â ffasiwn y cyfnod, aeth ati i gynllunio lleoliad rhamantaidd: chwythwyd ochr serth y dyffryn i ffwrdd i greu tirwedd creigiog, llwybrau troellog, ogofannau cudd a chell meudwy – a oedd yn cynnwys meudwy cyflogedig. Plannwyd coed nodweddiadol ar hyd yr afon. Roedd yn dirlun delfrydol er mwyn diddanu ei ffrindiau artistig a llenyddol.

Ar ôl cwblhau'r tŷ, cychwynnodd Richard Fenton ar brosiect newydd uchelgeisiol: A Historical Tour of Pembrokeshire, a gyhoeddwyd ym 1811. Mae'r gyfrol drawiadol hon yn cynnwys ei ddeuddeg taith o gwmpas y sir, gan ddisgrifio trefi a phentrefi, tai bonedd crand (y bu'n mwynhau eu lletygarwch fel gwestai), ac adfeilion ac olion hynafol. Cloddiodd rai o'r rhain ei hun ac yn ddiweddar, profwyd bod ei gred ei fod wedi darganfod darnau o deils gwasgaredig fila Rhufeinig yn gywir.

Pan fu farw Richard Fenton yn 75 oed ym 1821, nododd ffrind iddo mewn molawd ei fod yn “ddyn gyda diwydrwydd diflino, dychymyg barddonol campus, cymeriad siriol iawn...ac unigolyn a oedd yn meddu ar y wybodaeth orau am bron unrhyw bwnc.”

Pan oedd yn adeiladu ei blasty, melltithiwyd Richard Fenton yn Gymraeg gan fenyw leol, Anne Eynon. Roedd ei ewythr Samuel, yr oedd hi wedi bod yn feistres tŷ iddo, wedi addo y byddai hi'n cael defnyddio cae a bwthyn am weddill ei hoes, ond yn ddiarwybod iddo, roedd Richard wedi cynnwys hwn yn ei ystad newydd. Er ei fod wedi talu iawndal llawn iddi, roedd Richard yn teimlo'n anesmwyth iawn am y digwyddiad ac yn wir, am ei phroffwydoliaeth na fyddai'r eiddo yn aros yn ei deulu, a daeth hyn yn wir pan fu farw ei ŵyr, Reginald – heliwr helfilod mawr yn Ne Affrica – ym 1924, 100 mlynedd ar ôl marwolaeth Richard Fenton.

Tamaid hanesyddol
Mae'r hen harbwr yn y Dref Isaf yn lle hyfryd i ymweld ag ef: ffotogenig iawn, ac mae tafarn (Y Ship) gerllaw, ynghyd â chaffi a fan hufen iâ yn ystod yr haf. Weithiau, bydd pysgod ffres sydd newydd gael eu dal ar gael!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw