Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Yn 1997, bu Abergwaun yn dathlu 200 mlynedd ers Glaniad y Ffrancod gyda gwŷl arbennig i bawb.

Stori
Wel, yn y cyfnod yn arwain lan at y dathliade ‘dau gant’, we gyda fi blant ifanc. We Carys wedi’i geni yn 1990 ac Iwan yn ‘93. Felly, pan gododd y posibilrwydd o fedru helpu creu y Tapestri, we nwylo i yn fishi, ac we ddim posib cymryd ran, ac wen i’n drist obiti hynny. Ar y llaw arall, wedd hi’n bleser bod y ddou blentyn ar yr oed i joio gwisgo lan a dawnsio yn ystod y dathlu.

We ni, fel teulu, yn byw yng Nghroesgoch ar y pryd, a’r plant yn mynd i ysgol y pentre fanna. Ond, we ni ar fin symud i fyw i Bencâr. We ni wedi prynu hen adeiladau ffarm yn Nhresinwen ac we’r gŵr, sy’n adeiladwr, yn bwriadu troi’r adeiladau yn gatre i ni. We ishe tipyn o waith ar y lle ond wedd hi’n broject diddorol mewn lle arbennig iawn. We’r Ffrancod wedi bod yn Nhresinwen yn 1797. We ni wedi cwmpo am gymeriad a naws y lle, ac wen ni’n gwbod bod ishe gofal wrth weitho’r cynllun ac edrych ar fanylion yr adeilade. Mae’r ardal yn bwysig i lot o bobol, yn agos i’w calonne nhw. O newid gormod ar y lle, fydde’r hanes yn mynd ar goll.

Yn y lluniau sydd wedi eu tynnu ar Sgwâr Abergweun, mae Carys ac Iwan, gyda Anti Nansi. Hi yw chwaer fy nhad. Mae hi yn un o rocesi Abergweun, wedi ei magu lawr yn y Cwm, ac wedi clywed stori Jemeima pob blwyddyn ers ei geni. Gyda hi mae Mrs Eirwen Howells, Cwm Gwaun. We’r ddwy yn perthyn i ‘Fyddin Jemima’ yn ystod y dathliade.

Yn y llun lle mae’r plant yn dawnsio, mae dwy o rocesi’r ardal iw gweld. Un ydy Miss Yvonne Fox a fu’n Jemeima gwerth ei halen yn Abergweun yn ystod y dathlu ac am flynyddoedd wedyn. Y llall ydy Mrs Margaret Davies (Williams gynt). Bu’n athrawes yn Ysgol Wdig yn ystod yr 1950au, ac mae’n fam i’r Prifardd Mererid Hopwood. Mae y teulu Williams wedi byw ym Mhontiago, Pencaer ers cenedlaethe . Mae’n siwr i’r Ffrancod gwrdd â rhai ohonyn nhw! We’r dawnsio yn digwydd mewn twmpath a gynhaliwyd ar y ffald yn Fferm Bristgarn. Gwelir Bristgarn yn y Tapestri gan mai yma y saethodd un Ffrancwr at y cloc. Dwi’n meddwl mai grŵp gwerin Jac y Do we’n whare ar gyfer y dawnsio. Joiodd y plant mas draw, yn methu credu eu bod nhw yn câl dawnsio gyda Jemeima ei hun! Cefnder iddyn nhw, Siôn, sy’n digwydd bod yn bartner i Jemeima yn y llun. Wedd lot o gyffro yno ac fe flinodd Iwan yn gynnar gan mai dim ond peder wêd wedd e, ond joiodd pawb. Mae’r llunie yn dod nôl â chymaint o atgofion da.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw