Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Yn 1397 croesodd is-iarll o Gatalwnia y môr i Iwerddon ac ymweld â Loch Dearg [Lough Derg], cyrchfan enwog i bererinion yn Contae Dhún na nGall [County Donegal]. Dechreuodd y daith ym mhorthladd Caergybi ac yno hefyd y daeth i ben.
Stori
Ar 8 Medi 1397 cychwynnodd yr uchelwr o Gatalwnia, yr Is-iarll Ramón de Perellós, o Avignon dan fendith y Gwrthbab Bened XIII ar daith a fyddai’n mynd ag ef ar draws y Sianel, drwy deyrnas Lloegr, ymlaen i Gymru ac yna ar draws Môr Iwerddon. Roedd yn daith lawn ffydd ac antur, fel y cofnodwyd: ‘… where one may reasonably go, inasmuch as by God’s grace [and] I have seen and suffered on land and sea most of the strange and wonderful things of which I had heard tell’. Esgorodd y daith ar lawysgrif Gatalaneg sy’n ein cyrraedd ni heddiw drwy gyfres o ffacsimilïau a gysonwyd ac a drawsgrifiwyd gan brosiect CELT yng Ngholeg y Brifysgol Corc.
Teithiodd yr is-iarll i Rydychen ar ddydd Gŵyl yr Holl Saint (1 Tachwedd), gan ymweld yn gyntaf â chysegrfan Sant Thomas Beckett yng Nghaer-gaint ac yna aros i werthfawrogi’r brifysgol ar ôl cyrraedd. Wedi llwyddo i ddod o hyd i Risiart II, brenin Lloegr, ar ei ystâd hela yn Woodstock a derbyn ei fendith i barhau â’i siwrne, ymlaen â Perellós hyd at arfordir Cymru:
I left the court and went by daily stages until I entered a region called Chestershire, which is in the Welsh March, as far as the city of Chester, where I embarked and following the coast of Wales I came to a place called Holyhead; and from there I departed and crossed the deep with a fine wind in the direction of Ireland. Despalaguí (De Espalege) in the isle of Man which belonged to the king of a hundred knights in the time of King Arthur and is today well populated and belongs to the king of England; and from there I crossed, still with good weather, and arrived in Ireland and after a few days I disembarked in the city [of Dublin].
Ar ôl croesi Môr Iwerddon heibio i Ynys Manaw, aeth Perellós rhagddo tua’r gogledd i Ulaidh [Ulster], a orweddai y tu hwnt i gylch dylanwad rhanbarthau Seisnig Eingl-Normanaidd yr arfordir ac An Pháil Shasanach [the Pale of Settlement]. Gan fanteisio ar dduwioldeb, cwmni ac enw da, ymlaen ag ef wedyn drwy Droichead Átha [Drogheda] ac Ard Mhacha [Armagh] tua Phurdan Sant Padrig (yn Contae Dhún na nGall heddiw), gan deithio
drwy diroedd llinach frenhinol yr Uí Néill gogleddol nes cyrraedd yr ynys enwog yng nghanol llyn.
Wedi treulio Nadolig llawen a hwyliog yn llys yr Uí Néill yn Ard Mhacha, dychwelodd Perellós i'r Cyfandir.
[I] arrived at Dublin where we embarked to cross to England. And in that city I was most honorably received by the noblemen and clergy. And out of there I crossed the sea and we arrived Wales before a harbor called Holyhead and thence by daily stages we arrived in England, where I found the king in a town called Chester where there is a most beautiful abbey of Benedictine monks where the king was staying; the queen was also there and I was notably received.
Wedi iddo gyrraedd Perellós, ei ystâd ei hun yng ngogledd Roussillon (sy’n rhan o Gatalwnia heddiw), adroddodd yr is-iarll hanes y daith wrth gofnodydd. Fe’i cadwyd yn ddiweddarach mewn copi ffacsimili o destunau Catalaneg ac Ocsitaneg a gasglwyd yn 1903, ac fe’i cyfieithwyd gan Alan Mac an Bhaird yn rhan o brosiect CELT yn 2012 (y cyfieithiad hwnnw y dyfynnir ohono uchod). Mae arnom ddyled fawr i’r cyfieithydd gan nad oedd hi’n amlwg yn dasg hawdd: ‘Ramon de Perellós is most clearly not a professional writer. His syntax lacks cohesion and his style, to put it mildly, lacks polish’.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw