Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Coeden ginkgo yn dyst i gysylltiadau hanesyddol rhwng Siapan a Phrydain.

Stori
reolaeth rhwydwaith o deuluoedd pwerus a rhyfelwyr o dan arweiniad Shogun (Cadfridog). Roedd y wlad wedi ynysu ei hun o weddill y byd ond daeth yn fwyfwy amlwg bod Tsieina a Rwsia yn paratoi i oresgynnu’r wlad.

Yr adeg honno roedd Rwsia wrthi’n ehangu ei Hymerodraeth, ac roedd ganddi lynges newydd o longau rhyfel stêm. Nid oedd gan Siapan, ar y llaw arall, fwy na llongau hwylio pren a rhwyflongau. Daeth llywodraeth Siapan felly at Brydain, oedd yn berchen yn ystod y cyfnod hwn ar lynges fwya’r byd, i ofyn am gymorth i foderneiddio eu gwlad, gan ddatblygu diwydiant er mwyn adeiladu llynges stêm.

Ym Mhrydain felly comisiynwyd y tair llong ryfel gyntaf ar gyfer Llynges Ymerodrol newydd sbon Siapan sef y Kongo, y Fuso a’r Hiei. Adeiladwyd yr Hiei mewn iard llongau bach yn Jacobs Pill yn Noc Penfro. Daeth is-gapten ifanc o’r enw Heihachiro Togo i Ddoc Penfro i gynorthwyo. Yn ystod ei ymweliad arosodd yn Nhŷ’r Prif Longsaer yn yr hen Ddoc Brenhinol.

Lansiodd yr Hiei i’r dŵr ar 9 Mehefin 1877 yng nghanol dathliadau mawr yn Noc Penfro. Yn bresennol roedd Llysgennad Siapan, Ei fawrhydi Jushie Uyeno Kagenori, staff diplomataidd, a llawer o swyddogion pwysig. Cyrchodd yr Hiei am Siapan dan lywyddiaeth Capten y Llynges Frenhinol, gyda Lt Togo ar ei bwrdd. Pan gyrhaeddodd ei wlad, danfonodd Lt Togo goeden ginkgo yn ôl i Ddoc Penfro gyda’r neges: ‘Os gwelwch yn dda, plannwch y goeden hon yng ngardd y tŷ lle bues yn lletya, yn dyst i’r caredigrwydd a brofais yn ystod
f’arhosiad.’

Plannwyd y goeden gan Lysgennad Kagenori: mae hi’n fyw ac yn ffynnu hyd at heddiw. Yn 2017, daeth hanesydd Doc Penfro David James i gysylltiad â newyddiadurwyr a staff diplomataidd o Siapan. Aeth â nhw i weld y goeden, gan adrodd y stori am Lt Togo. Esbonion nhw fod Lt Togo wedi cael gyrfa ddisglair yn Llynges Ymerodrol Siapan (IJN), gan gyrraedd swydd Llyngesydd MarsialTogo a yrrodd ddatblygiad Llynges Siapan, a
brwydrodd yn erbyn – a threchu – llyngesau Tsieina a Rwsia ar arfordiroedd Siapan. Y frwydr enwocaf oedd Tsushima ym 1905, pan chwalwyd Llu Baltig Rwsia’n llwyr, gan ddiogelu Siapan rhag goresgyniad.

Aeth y diplomatiaid i siecio stori’r goeden, a darganfod ei fod yn hanesyddol gywir. Wedi eu cyffroi, fe ofynnon nhw i David gymryd sbrigyn o’r goeden. Roedd Llyngesydd Togo yn arwr cenedlaethol yn Siapan, yn union fel y Llyngesydd Nelson ym Mhrydain.

Cymerodd staff Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru doriadau, a’u magu am flwyddyn nes iddynt fod yn ddigon cryf i gael eu danfon i Siapan. Cafwyd syniad gan y Capten Toshihida Noma, Attaché’r Llynges i Lysgennad Siapan, y dylid plannu coeden fach ym mhob lle yn Siapan oedd â chysylltiad â’r Llyngesydd Togo – rhyw 15 yn gyfan gwbl!

Cwmni logisteg Siapanieg Nippon Yusen a gludodd y coed ifanc i Faes Awyr Haneda, a chyrhaeddont ar noswyl Nadolig 2019. Aethant ymlaen wedyn i Ardd Fotaneg Dinas Hiroshima ar gyfer cyfnod o ofal dan gwarantîn. Wedyn, ar 1 Gorffennaf 2020, plannwyd y goeden fach gyntaf mewn seremoni ym morlys Kure, Hiroshima, gan Mr Nishihara, Maer Dinas Kure, ym mhresenoldeb newyddiadurwyr a Chapten Simon Staley, Attaché y Llynges Frenhinol i Lysgennad Prydain yn Tokyo.

Dywedodd Mr Nishihara fod bodolaeth Dinas Kure yn ddyledus i Ddoc Penfro, oherwydd yno y ganwyd llynges Siapan. Anrhydeddwyd David James am ei waith yn hybu’r berthynas rhwng Siapan a Sir Benfro gan y Prif Weinidog, Rt. Hon. Theresa May, yn ogystal â Llysgenhadwyr presennol a blaenorol Siapan, a daeth anrhydedd arall, ar 10 Gorffennaf 2020, oddi wrth Faer Dinas Kure, Siapan.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw