Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tyfu a datblygu a wnaeth Doc Penfro ac Aberdaugleddau gerllaw yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o bentrefi bychain Paterstown a Hubberstown ar lan afon Cleddau. Roedd harbwr naturiol eang Aberdaugleddau yn fan cychwyn i nifer o ymosodiadau ar Iwerddon, gan gynnwys rhai dan arweiniad Harri II ac Oliver Cromwell. Dyma hefyd i le y dychwelodd Rhisiart II o Iwerddon i wynebu cael ei drechu gan Henry
Bolingbroke yn 1399. Cafodd Milffwrd, ar yr ochr ogleddol, ei sefydlu fel tref newydd yn 1793 gan Syr William Hamilton a’i nai Charles Greville, a aeth ati i wahodd nifer o deuluoedd o Grynwyr o Nantucket i ymsefydlu yno a rhedeg llynges forfila. Yn 1800 sefydlwyd dociau’r llynges yno lle buwyd yn adeiladu llongau gydol cyfnod rhyfeloedd Napoleon.

Yn 1814 symudwyd yr Iard Longau Frenhinol ar draws yr afon i Ddoc Penfro (a elwid yn wreiddiol yn Doc Paters), a thyfodd tref newydd o’i chwmpas. Buwyd yn comisiynu ac yn adeiladu llongau’r llynges frenhinol yno am dros gan mlynedd, gyda’r olaf, yr Oleander, yn cael ei lansio yn 1922. Er hynny, parhaodd y safle i fod yn Iard Longau Frenhinol hyd nes iddi gael ei throsglwyddo i ofal Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau yn 2007. Yn ystod yr ugeinfed ganrif roedd Doc Penfro yn ganolfan bwysig i’r Awyrlu Brenhinol, a daeth yn ganolfan bwysicaf y byd i gychod hedfan (awyrennau môr). Yn 1940 ymosododd y Luftwaffe ar y Doc gan fomio cyfres o danciau olew gerllaw ac achosi tân difrifol.

Mae’r holl gynhysgaeth filwrol wedi gadael pensaernïaeth drawiadol o adeiladau’r morlys, tyrau Martello, barics, capel llyngesol a hangarau enfawr (yn un o’r rhain y crëwyd y Millennium Falcon yn 1979 ar gyfer y ffilm The Empire Strikes Back o Star Wars). Erbyn heddiw, mae Doc Penfro yn gartref i wasanaeth teithwyr Irish Ferries i Ros Láir.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw