Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae pwysigrwydd rhyngwladol i’r ynys hon sy’n cynnwys bywyd gwyllt ysblennydd – a’r cyfan mewn du a gwyn.

Stori
Mae’n bosibl ein bod yn tueddu i gysylltu adar y môr ag ynysoedd, a bod gennym ddarlun yn ein pennau o balod yn cadw gwyliadwriaeth ar silffoedd o graig a gwylogod mewn rhengoedd clòs ar sgafellau cyfyng. Ond cynefin dros dro yn unig yw hwn. Pan fyddant ar dir, bydd yr adar yn nerfus ac mewn perygl o fod yn brae. Adar y môr ydynt, wedi’r cyfan, ac mae’r hugan yn treulio’r rhan fwyaf o’i oes ymhell allan dros y dŵr, yn gyrru yn erbyn y gwynt dan brin symud, yn marchogaeth yr awyr waeth pa mor dyrfus yw hwnnw. Dim ond pan fydd gwir raid y byddant yn gorffwys ar y tonnau, ac maen nhw’n cadw’n ddigon pell o’r lan heblaw pan fydd yr hen ysfa reddfol yn eu denu i ryw ynys neu bentir anghysbell i fagu cywion. Edrychwch ar garfilod fel gweilch y penwaig a gwylogod ar y graig yn gynnar yn y gwanwyn, toc wedi iddyn nhw gyrraedd o’r môr, a sylwch mor ofnus ydyn nhw, am bod yn
fregus. Rydyn ni’n tueddu i’w hystyried yn adar yr ynysoedd gan mai prin y’u gwelwn ni nhw allan dros gefnfor agored, lle mae rhywogaethau fel adar drycin, sy’n ddim mwy na adar y to, yn gartrefol iawn hyd yn oed mewn gwyntoedd cryfion.

Mae’r enw Lladin ar yr hugan, Morus bassana, yn cynnwys cyfeiriad at un o’i nythfeydd enwocaf, sef Bass Rock yn Aber Gweryd [Firth of Forth]. Cyn belled yn ôl â dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, roedd ymwelwyr yn cofnodi presenoldeb yr adar ar y slabyn mawr hwnnw o graig: ‘Near to Gleghornie, in the ocean, at a distance of two leagues, is the Bass Rock, wherein is an impregnable stronghold. Round about it is seen a marvellous multitude of great duck that live on fish.’

Mae’n ddigon hawdd adnabod y ‘great ducks’ wrth sylwi arnynt yn patrolio’r tonnau yn chwilio am gryndod arian rhyw haig o benwaig, ond cwbl amhosibl yw eu camgymryd pan welwch nhw’n pysgota. O uchder o hyd at 140 troedfedd, maent yn gostwng eu hadenydd, a’u cyrff yn dod yn waywffyn byw. Plymiant tuag at eu prae ar gyflymder o hyd at 100 km yr awr, neu, yng ngeiriau’r bardd Christine Evans, ‘Gannets fall/as if fired back/by sky they have stretched/with their slow, strong wing beats.’ Cyn iddynt fwrw wyneb y dŵr bydd codenni aer bychain yn eu pennau yn llenwi, yn union fel y bagiau awyr sy’n gwarchod teithwyr car mewn gwrthdrawiad. Mae’r awdur natur medrus Tim Dee wedi dal gwefr bur golygfa nad yw’n ail i weld Anifeiliaid Mawr Affrica, y vibrato cinetig a rhuthr gorfoleddus y plymio:

Again and again they do the same thing to catch their food, but each dive shines. Nature’s repetitions are never boring. Every time it is like witnessing a fresh marvel in a new world; their visible decision-making, with its corrective twisting and corkscrewing, the rapid origami of themselves, and then their brilliant white match strikes, fizzing into the water (at 60 mph) to leave puffs of lit sea spray. It is hard not to blink and hold your breath as they go in.

‘The rapid origami of themselves’ – dyna ymadrodd sy’n werth ei ailadrodd!

Tamaid hanesyddol
- Bydd huganod ifanc yn hedfan tua’r de wedi iddynt gefnu ar Ynys Gwales a chaiff llawer eu hachub neu eu canfod yn farw ar arfordir Moroco, Senegal a Mauritania.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw