Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae Linda Asman yn adrodd stori Isabel de Clare, 4ydd iarlles Penfro a Striguil, menyw bwerus yr oedd ganddi ddylanwad gwleidyddol mawr am yr oes.

Stori
Ganwyd Isabel de Clare yn Leinster yn 1172 i Aoife Mac Murrough a Richard de Clare (‘Bwa Cadarn’), Iarll Penfro a Striguil. Yn dilyn marwolaeth ei brawd, Gilbert, yn 1184, daeth Isabel yn unig etifedd ac yn un o’r etifeddesau cyfoethocaf yn y deyrnas. Fe’i gwnaethpwyd yn ward brenhinol ac er mwyn cadw rheolaeth dros y sawl y byddai hi’n priodi, fe’i gosodwyd yn Nhŵr Llundain gan Henry II.

Yn 1189, priodwyd Isabel a William Marshal. Priodas wleidyddol oedd hon. Fe’i dyfarnwyd gan Rhisiant Lewgalon er mwyn cyflawni’r addewid a wnaethpwyd gan ei dad, Henry II, i Williams am ei deyrngarwch diwyro a’i wasanaeth i’r goron. Trawsnewidiwyd William o fod yn farchog heb dir i fod yn dirfeddiannwr mawr gyda thiroedd yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr a Normandi gan etifeddiaeth Isabel, ac yn y pen draw, fe’i wnaethpwyd yn Arglwydd Leinster ac yn Iarll Penfro (1199). Er gwaethaf y ffaith bod bwlch o dri deg pump o flynyddoedd rhyngddynt, bu’n briodas hapus iawn, a chawsant ddeg o blant. Mae The History of William Marshal yn ein hysbysu bod ‘William wedi dibynnu’n fawr ar gyngor ei wraig, yr oedd yn ei charu ac yn ei pharchu’.

Ar ôl colli Normandi, roedd William a Brenin John, olynydd Rhisiart Lewgalon, wedi cweryla, pan anfonwyd William i drafod cadoediad gyda Brenin Philip II o Ffrainc yn 1204. Heb sicrhau caniatâd John ymlaen llaw, talodd William wrogaeth i Frenin Philip er mwyn cadw ei diroedd ef, ond roedd hyn wedi digio John yn ddiweddarach, ac aeth eu perthynas yn un elyniaethus. Ar ôl gofyn am gael ymddeol i’w dir yn Iwerddon, rhoddwyd caniatâd i William ar yr amod y byddai dau o’u feibion yn cael eu trosglwyddo fel gwystlon i’r Brenin am ei ymddygiad da.

Bu 1207-8 yn gyfnod anodd, pan welwyd rhannau o Leinster yn gwrthryfela yn erbyn William, wedi’u hannog gan brifustus Brenin John, Meiler Fitzhenry. Pan orchmynnwyd William i ddychwelyd i Loegr gan John, gadawodd Isobel ar ôl i reoli eu busnes. Roedd William yn parchu’r ffaith mai hi oedd ffynhonnell ei rym ac fel wyres Dermot, brenin Gwyddelig olaf Leinster, y gallai sicrhau teyrngarwch yr arglwyddi Gwyddelig, nad oedd modd iddo ef. Ar ôl i William deithio i Loegr, rhoddodd Meiler Gastell Kilkenny dan warchae. Yn hytrach nag ildio, llwyddodd Isabel i drechu Meiler a pheri iddo blygu iddi yn
bersonol, gan gymryd ei fab fel gwystl am ymddygiad da yn y dyfodol. Cymrodd wystlon gan yr arglwyddi gwrthryfelgar eraill hefyd, ac nid oedd yn falch pan benderfynodd William faddau i’r gwrthryfelwyr ar ôl iddo ddychwelyd i Iwerddon, ac eithrio Meiler.

Dros y blynyddoedd nesaf, treuliodd Isabel a William ran fwyaf eu hamser yn Leinster, gan ddatblygu Dinas Kilkenny fel canolbwynt eu grym. Cyflawnodd Isabel rôl hanfodol yn y gwaith o sefydlu a datblygu tref Normanaidd New Ross – tref yr oedd hi’n ei charu a lle y mae rhai yn honni y claddwyd ei chalon. Nid oedd y pâr wedi esgeuluso eu tiroedd eraill, gan gynnwys ychwanegiadau helaeth i Gastell Cas-gwent a Phenfro. Ymhlith nifer o sefydliadau crefyddol, sefydlont Abaty Sistersaidd Tintern Parva, Sir Wexford fel tŷ merch Abaty Tyndyrn, yn dilyn llw a wnaethpwyd yn ystod storm ar Fôr Iwerddon yn 1201.

Byddai tro arall yn dod ar fyd Isabel a William pan benderfynodd John, wrth iddo ymgodymu â’i farwniaid, estyn allan i William a galw arno i ddychwelyd i Loegr yn 1213. Gan geisio sicrhau heddwch, bu William yn rhan ganolog o’r trafodaethau a arweiniodd at lofnodi’r Magna Carta yn 1215 ac ef oedd un o blith yr ychydig ieirll Seisnig i barhau i fod yn ffyddlon trwy gydol Rhyfel y Barwniaid. Yn dilyn marwolaeth Brenin John yn 1216, daeth William yn Rhaglyw Lloegr ar gyfer brenin ifanc Henry III, a phan oedd yn 70 oed, arweiniodd y fyddin frenhinol i Lincoln i wasgaru’r lluoedd Ffrengig a oedd yn ymosod, gan arbed Lloegr a chreu heddwch.

Bu Isabel a William yn briod am ddeg mlynedd ar hugain, a phan oedd William ar ei wely angau yn 1219, roedd Isabel a’u plant wrth ei ymyl. Bu Isabel yn galaru ar ôl ei farwolaeth. Er gwaethaf ei galar, roedd hi’n benderfynol o ddiogelu a gwarchod popeth yr oedd William a hi wedi ei greu. Er mwyn datgan ei hawliau yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon, deisyfodd brifustus Lloegr a llysgennad y Pab a theithiodd i Ffrainc i dalu gwrogaeth i Philip II am ei thiroedd yn Normandi. Trist nodi y bu farw Isabel ddeg mis yn unig ar ôl marwolaeth ei hannwyl ŵr. Er y buont mor agos yn ystod eu bywyd, fe’u claddwyd ar wahân: claddwyd ef yn Eglwys Temple a chladdwyd hithau yn Abaty Tyndyrn, lle y’i rhoddwyd i orwedd wrth ymyl ei mam, Aoife o Leinster.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw