Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae Dydd Gŵyl Dewi’n fater cyhoeddus mawr i Gymry ledled y byd heddiw, ond nid felly roedd hi bob amser.

Stori
traddodiad cymharol ddiweddar yw dathlu’r ŵyl. Tipyn o syndod o bosibl yw deall mai yn Llundain ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif y dechreuodd yr arfer o gynnal dathliad gwladgarol ar ddydd gŵyl Dewi. Yno, rydyn ni’n gwybod bod Cymdeithas Anrhydeddus a Theyrngar yr Hen Frythoniaid yn cynnal gorymdeithiau blynyddol drwy'r ddinas gyda llawer o rwysg a ffanffer fel arddangosfa gyhoeddus o wladgarwch y Cymry. Ar ôl yr orymdaith, byddai aelodau'r gymdeithas yn ymgynnull i wledda tan yn hwyr y nos ac yn codi llawer llwncdestun, nid yn unig i anrhydeddu Cymru a Dewi, ond hefyd y brenin. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr arfer hwn o wledda gwladgarol hefyd wedi cydio yng Nghaergybi lle byddai boneddigion lleol yn ymgynnull yn flynyddol yn nhafarn y King’s Head, a oedd yn gweithredu ar y pryd fel Swyddfa’r Ecséis hefyd.

Ym 1829, rhoddodd y North Wales Chronicle and General Advertiser ddisgrifiad manylach o ddathliadau Caergybi a drefnwyd gan y Gymdeithas Erlyn Ffeloniaid. Nid dyma'r tro cyntaf i'r Gymdeithas gynnal gwledd yn nhafarn y King’s Head i anrhydeddu nawddsant Cymru, ond mae'r adroddiad yn nodi bod dathliadau'r flwyddyn honno wedi'u cynnal 'with more than usual conviviality'. Er bod y Capten Morris M. Goddard wedi creu anawsterau i’r gymdeithas drwy ymddiswyddo fel cadeirydd ar yr unfed awr ar ddeg, dyma Edmund Roberts, Ysw. yn camu ymlaen i lywyddu dros y seremoni o flaen cynulleidfa doreithiog ar y noson.

Mae’r erthygl yn mynd ymlaen i ganmol safon y cinio, er ei bod yn dal yn aneglur a oedd saig genedlaethol Cymru – cawl – ar y fwydlen ai peidio. Yn hytrach, mae'r gohebydd yn manylu'n am y nifer fawr o lwncdestunau amrywiol a godwyd yn ystod y noson. Roedd y testunau’n cynnwys Dewi Sant yn naturiol, ond hefyd y Brenin William IV, sawl aelod o'r bendefigaeth, yn ogystal â boneddigion lleol fel Henry Paget, Ardalydd Cyntaf Ynys Môn, a Stanleys Penrhos. Cafodd gwydrau eu codi hefyd i anrhydeddu Dug Wellington a Robert Peel ond, er siom y gohebydd, cafodd y gwesteion eu taro’n sydyn gan ffit pesychu ar y cyd. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, yfodd y parti i iechyd eu gwesteiwyr blynyddol, Mary Parry ac Edward, perchennog tafarn y King’s Head a'i mab.

Nid yfed a bwyta yn unig oedd y dathliadau hyn: roedden nhw hefyd yn cynnwys un arall o hoff ddifyrion y Cymry: adrodd barddoniaeth. Rywbryd yn ystod y noson, cyflwynodd bardd Saesneg lleol o’r enw John Bates ei gyfraniad blynyddol diweddaraf i'r dathliadau ar ffurf cerdd o fawl i'r nawddsant a'r wlad:

Hail! first of March – to Britons dear,
Be this thine own – thy native lay;
First, fairest, happiest of the year,
Art thou, divine Saint David’s Day.

Tua chanol nos, daeth y dathlu i ben o’r diwedd a’r gloddestwyr i gyd 'highly delighted with their entertainment, and the occasion which brought so many good friends together'.

Tamaid hanesyddol
- Mae’n ymddangos bod yr King's Head Inn yn Market Streed wedi'i ddymchwel rywbryd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly does dim modd nodi’r union leoliad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw