Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Caergybi yw’r dref fwyaf ar Ynys Gybi sy’n rhan o Ynys Môn ehangach. Mae’n borthladd
sylweddol, sy’n gallu ymfalchïo mewn cysylltiad fferi ag Iwerddon sy’n dyddio’n ôl dros
ddau gan mlynedd. Er mai pentref pysgota cymharol fychan oedd Caergybi tan tua 1800,
roedd pobl wedi bod yn byw yn yr ardal ers cyn belled yn ôl a’r cyfnod Neolithig, fel y
tystia’r olion niferus o gytiau crwn, siambrau claddu a meini hirion. Cafodd caer filwrol
Rufeinig ei sefydlu yma yn y bedwaredd ganrif ac yn ddiweddarach, yn y chweched ganrif,
cafodd y gwersyll gwag ei addasu i bwrpas gwahanol pan gysegrwyd eglwys a mynachlog i
Sant Cybi. Mae’r enw Caergybi ynddo’i hun yn grynodeb taclus o wreiddiau Rhufeinig a
Christnogol cynnar y lle.

Ers yr ail ganrif ar bymtheg o leiaf mae Caergybi wedi bod yn brif borthladd gogledd Cymru
ar gyfer mordeithiau i Iwerddon. Roedd cwblhau lôn bost Thomas Telford, agor Pont y Borth
a dyfodiad y rheilffordd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hwb sylweddol i
dwf y dref. Yn 1819 dechreuwyd defnyddio agerlongau i gludo post a theithwyr rhwng
Caergybi a Kingstown (Dún Laoghaire), gan wneud y gwasanaeth yn fwy dibynadwy a
chynyddu’r traffig ar draws Môr Iwerddon. Daeth yn angenrheidiol felly i ddatblygu harbwr
newydd, llawer mwy, a allai roi lloches i hyd at fil o longau mewn tywydd garw. Y canlyniad
oedd adeiladu morglawdd Caergybi – morglawdd hiraf Prydain hyd heddiw ac yntau’n
ymestyn dros 2.7k.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw