Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Stori Bad Achub Charterhouse, o'i rôl mewn achubiad enwog oddi ar Graig y Nodwydd yn Abergwaun i'w gadwraeth a'i rôl yn y presennol.

Stori
Ar noson dywyll oer ym mis Rhagfyr 1920 y digwyddodd y mwyaf cofiadwy o gyrchoedd achub bad achub Abergwaun. Enw’r bad dan sylw oedd Charterhouse, a ariannwyd gan yr ysgol o'r enw hwnnw ac a gyflwynwyd i orsaf yr RNLI ym 1908. Cafodd y bad ei adeiladu ar gyfer tywydd garw gyda chorff aml-haen, tanciau arnofio yn y blaen a’r cefn, a dec agored a oedd yn caniatáu i’r dŵr redeg i ffwrdd. Charterhouse oedd y bad achub cyntaf â modur yng Nghymru, gyda thanc tanwydd 50 galwyn yn caniatáu i'r injan redeg am 18 awr.

Ar y noson dan sylw, roedd sgwner modur tri mast o'r Iseldiroedd Hermina, ar ei ffordd i Rotterdam, wedi cysgodi ym Mae Abergwaun ond am fod y tonnau’n fawr yn y gwynt mawr o’r gogledd-orllewin dechreuodd yr angorau lusgo. Gorchmynnodd y capten i ffaglau gael eu tanio ac ymatebodd Charterhouse, gan gychwyn allan i'r môr o dan orchymyn y cocs 65 oed, John Howells.

Angorodd y bad achub ochr yn ochr â'r llong anffodus ond roedd anfon rhaff ar fwrdd yr Hermina yn her wrth i'r tonnau godi Charterhouse mor uchel â rigin y sgwner. Ymhen awr roedd saith o griw Hermina wedi'u codi oddi ar y llong ond mynnodd y capten, y prif swyddog a'r ail is-gapten aros ar ei bwrdd er gwaethaf y perygl y byddai’r llong cyn hir yn taro Craig y Nodwydd, sef pinacl miniog yn codi o'r dŵr o dan glogwyni serth.

Dechreuodd Charterhouse yn ôl i'r lan ond erbyn hyn roedd y peiriant wedi'i drochi ac wedi methu. Doedd gan y criw ddim dewis ond dibynnu ar rwyfau yn unig i wneud eu ffordd yn ôl ar draws y dyfroedd cythryblus gyda'r saith dyn a achubwyd. Roedd gwaeth i ddod: cafodd hwyl y llyw ei rhwygo yn y gwynt a syrthiodd y mast i'r môr. Llwyddodd dau aelod o'r criw i gropian ar draws pen blaen y bad i godi’r hwyl flaen. Drwy ddewrder rhagorol a morwriaeth wych, cafodd Charterhouse ei symud i ffwrdd o'r clogwyni ac allan i fan lle gallai fynd yn ôl i’r harbwr, sef ymdrech a gymerodd dros dair awr.

Nid cynt y cyrhaeddodd y bad achub ddiogelwch na bod ffaglau wedi’u tanio o Hermina unwaith eto: roedd hi'n chwalu ar graig y Nodwydd. Cafodd un dyn ei olchi i ffwrdd a'i foddi ond cafodd y ddau arall eu hachub gan ddyn lleol, William Howells, a gafodd ei ostwng ar raff a llwyddo i'w codi i ben y clogwyn. (Mae gweddillion y sgwner i'w gweld o hyd o dan y clogwyn ar y llanw isaf.)

I gydnabod yr achubiad arwrol hwn dyfarnwyd medal aur yr RNLI i'r cocs, ac arian ac efydd i weddill y criw. Teithiodd pob un ohonynt, ynghyd â Charterhouse ei hun fel gwestai anrhydeddus, i Lundain ar y trên i gael eu gwobrau gan Dywysog Cymru yn bersonol.

Yn ystod ei saith mlynedd ar hugain o wasanaeth cafodd Charterhouse Abergwaun ei lansio ar 20 o gyrchoedd achub, gan achub 47 o fywydau. Ym 1930, cafodd ei ddisodli gan fad achub y White Star. Ond nid dyna ddiwedd y stori. Yn 2008 aeth hanesydd lleol, Phil Davies, ati i chwilio am Charterhouse a chafodd ei fod wedi’i droi'n iot, wedi'i ailenwi'n Marian ac wedi cyrraedd Gogledd Cymru fel cwch gwyliau i deulu o'r enw Lomas. Pan gafodd ei olrhain, prin ei bod yn addas i hwylio ac roedd angen sylw mawr i’w gyflwr. Yn hael iawn, cynigiodd y teulu Lomas ei roi yn ôl i gymuned Abergwaun ac Wdig lle dechreuodd grŵp o selogion ar waith adfer hir.

Cafodd y gwaith ei arwain gan Ymddiriedolaeth Charterhouse yn Abergwaun. Gobaith gwreiddiol yr Ymddiriedolaeth oedd arddangos y bad achub yn Wdig. Fel digwyddodd pethau, roedd hyn yn dalcen caled, gan nad oedd yr un o'r adeiladau presennol ar lan y môr ar gael nac yn addas.

Aeth hi’n ben set pan gafodd Ymddiriedolaeth Charterhouse wybod nad oedd modd cadw'r cwch ym mhorthladd Abergwaun mwyach. Roedd wedi cael ei gartrefu yno ers dychwelyd i Wdig yn 2008. Dim ond un lle y gallai'r Ymddiriedolaeth feddwl amdano i ailgartrefu Charterhouse: Amgueddfa Treftadaeth Forol y Gorllewin.

Roedd yr Amgueddfa’n fwy na pharod i gynnig cartref iddo ac felly cafodd ei symud yno ym mis Ionawr 2020, ar fenthyg yn wreiddiol. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth â'u gwaith, gan godi arian i adeiladu lloches i ddiogelu Charterhouse ar y tir. Ymhen amser, penderfynwyd bod Amgueddfa Treftadaeth Forol y Gorllewin yn lle addas iawn i fod yn gartref parhaol i Charterhouse. Ym mis Ebrill 2021 cafodd Charterhouse ei roi’n ffurfiol i'r Amgueddfa a nhw yw’r perchnogion erbyn hyn. Does dim cynlluniau iddo ddychwelyd i Wdig na symud byth eto. Erbyn hyn mae gan Charterhouse gartref parhaol: achubwyd yr achubwr.

Tamaid hanesyddol:
- Cafodd pin copr o'r Hermina ei adennill a'i hysbysu i’r Derbynnydd Llongddrylliadau yn 2008. Nid yw cymeriad llawn na graddau'r olion archaeolegol yn hysbys ar hyn o bryd.

- Bu farw Mr Emlyn Morgan ym mis Ebrill 2021 yn 106 oed – y dyn hynaf yn Sir Benfro. Roedd Mr Morgan yn un o'r dorf o bobl a redodd i'r clogwyni uwchben llongddrylliad yr Hermina. Yna disgynnodd ei dad ar hyd y clogwyn, gyda chymorth rhaff, ac achub un o aelodau'r criw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw