Porthladdoedd, ddoe a heddiw: Abergwaun (2020)
Disgrifiadau
Tref ar arfordir gogledd Sir Benfro yw Abergwaun, sy’n edrych allan dros Fae Ceredigion. Mae ei henw Cymraeg yn adlewyrchu ei safle ar geg afon Gwaun a’i henw Saesneg, Fishguard, yn tarddu o’r Hen Norseg Fiskigarðr ‘man caeedig ar gyfer dal pysgod’ ac yn datgelu hanes hir y dref fel porthladd masnachu. Roedd nwyddau fel calchfaen, glo, llechi, gwlân a bwydydd i gyd yn mynd drwy ei harbwr.
Denodd ffyniant y porthladd sylw ysbeilwyr: yn 1779 cipiwyd llong leol gan breifatîr a elwid y Black Prince, a mynnodd bridwerth o fil o bunnau amdani. Pan wrthododd pobl y dref dalu, aeth criw’r preifatîr ati i ymosod ar Abergwaun gyda magnelau gan ddifrodi tai lleol ac eglwys y Santes Fair (a adnewyddwyd yn ddiweddarach ac sy’n gartref i ffenestri lliw cain). Codwyd Hen Gaer Trwyn y Castell o ganlyniad i’r digwyddiad hwn: oddi yma y taniodd y Cymry ganon at luoedd Ffrainc yn ystod ‘Goresgyniad Olaf Prydain’ ym mis Chwefror 1797. Dan arweiniad yr Americanwr o dras Wyddelig William Tate, glaniodd Légion Noire y Ffrancwyr ar Drwyn Carregwastad ar 22 Chwefror. Roedd cynifer â 1,400 ohonynt ond roeddent yn brin o ddisgyblaeth a bu’n rhaid iddynt ildio’n ddiamod ar Draeth Wdig ymhen tridiau.
Ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, cafodd y digwyddiadau hyn eu coffáu ar dapestri can troedfedd o hyd a grëwyd gan y gymuned, sydd bellach yn cael ei arddangos yn Neuadd y Dref. Wrth i’r hen borthladd ddirywio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth dyfodiad y rheilffordd yn 1906 â llongau trawsiwerydd i Wdig gerllaw, ac adeiladwyd harbwr newydd yno. Oddi yma y mae cwmni Stena Line bellach yn rhedeg ei wasanaeth teithwyr i Ros Láir (Rosslare). Bu Abergwaun hefyd yn gartref i’r hynafiaethydd Richard Fenton (1747–1821) a’r llenor D. J. Williams (1885–1970). Ymddangosodd cei prydferth Cwm Abergwaun yn y ffilmiau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment