David Street:'Cysylltiadau' (2022)
Disgrifiadau
Lede
Ers iddo gael ei adeiladu ym 1832, mae'r pier yn Hobbs Point wedi bod yn dyst i nifer o newidiadau i seilwaith a chysylltiadau traws-arfordirol Doc Penfro. Yn yr un modd â llanw diwydiant a gwleidyddiaeth, mae hunaniaeth a swyddogaeth Hobbs Point wedi esblygu gydag amser, ac yng ngoleuni digwyddiadau gwleidyddol a welwyd yn ddiweddar, mae'n parhau i esblygu.
Stori
Enwyd Hobbs Point ar ôl y cyn dirfeddiannwr Nicholas Hobbs, ac fe'i adeiladwyd ar ddechrau'r 1830au ar gyfer y llongau post a arferai deithio rhwng gorllewin Cymru a Waterford yn Iwerddon. Cychwynnodd y gwasanaeth hwn ym 1750 a bu'n gweithredu tan 1966. Daeth y gwasanaeth post i ben yn Hobbs Point ym 1848 ac fe'i trosglwyddwyd i Neyland ar ôl adeiladu terfynfa ar gyfer Great Western Railway Isambard Kingdom Brunel. Daeth y derfynfa rheilffordd, a adeiladwyd ym 1855-56, yn ganolfan a arweiniodd at dwf Neyland ac yn fuan wedi hynny, sefydlwyd gwasanaethau agerlongau newydd i Waterford a Cork yn Iwerddon. Gwelwyd Neyland yn ffynnu am dros 50 mlynedd, ond ar ôl adeiladu harbwr newydd yn Abergwaun, gwelwyd gostyngiad yn y traffig o Iwerddon. Ar ôl cyhoeddi adroddiadau Beeching, caewyd y derfynfa rheilffordd ym 1964.
Ar ôl trosglwyddo'r gwasanaeth post i Neyland, roedd Hobbs Point yn rhydd nawr i gael ei ddefnyddio fel glanfa osod ar gyfer y llongau niferus a adeiladwyd yn Iard Longau Penfro. Codwyd heglau enfawr ac fe'u defnyddiwyd i godi peiriannau, gynnau a darnau eraill o offer trwm i gyrff llongau. Ar ôl cwblhau'r llongau, fe'u gwelwyd yn ymuno â gweddill fflyd y Llynges Frenhinol ar draws y byd. Wrth i'r gwaith o adeiladu llongau yn yr Iard Longau ddechrau arafu, daeth y lithrfa yn rhydd ar gyfer gwasanaeth fferi bychan rhwng Doc Penfro a Neyland. Gan weithredu o 1923, roedd Lady Magdalen un yn unig o'r fferïau a arferai gludo teithwyr a cheir ar draws Afon Cleddau. Roedd y fferïau a welwyd yno yn ddiweddarach yn cynnwys cychod olwyn Cleddau Queen a Cleddau King, a adeiladwyd yn Iard Hancock yn Noc Penfro. Ar ôl adeiladu Pont Cleddau ym 1975, nid oedd angen y gwasanaeth fferi mwyach. Mae tynged Cleddau Queen yn anhysbys, fodd bynnag, ailenwyd Cleddau King yn Porta Ferry, a bu'n gweithio yng Ngogledd Iwerddon yn cludo ceir a theithwyr ar draws llyn Strangford.
Wrth i gysylltiadau newydd gael eu creu, gwelwyd hen rai yn chwalu. Arweiniodd y derfynfa rheilffordd yn Neyland at ddiwedd y gwasanaeth post yn Hobbs Point, a therfynwyd y gwasanaeth fferi gan Bont Cleddau. Bellach, mae Hobbs point yn segur ar lan Afon Cleddau, gan gynnig golygfeydd dramatig o Ddyfrffordd Aberdaugleddau. O'r lithrfa, gellir gwylio'r fferi sy'n cludo teithwyr rhwng Doc Penfro a Rosslare yn cyrraedd ac yn gadael. Fodd bynnag, mae'r cyswllt olaf hwn gydag Iwerddon yn un bregus. Gyda llai o draffig oherwydd Brexit, disodlwyd fferi Isle of Inishmore gyda Blue Star 1, sy'n llai o faint. Os bydd y gostyngiad a welir ar hyn o bryd yn y galw yn parhau, a gyda chystadleuaeth o Abergwaun, gallai Doc Penfro golli ei chysylltiad olaf ag Iwerddon ac UE.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment