Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Stori cysylltu Canada, Iwerddon a Chymru o dan y môr.

Story (Welsh)
Yn ein byd ni o gyfathrebu yn y fan a’r lle, mae’n anodd dychmygu ei bod yn arfer cymryd deng niwrnod i anfon neges o Ogledd America i Ewrop. Dyna’r cyflymaf y gallai llong fynd – os byddai’r tywydd yn ffafriol.

Newidiodd hyn i gyd ym 1858 pan gafodd y cebl trawsatlantig cyntaf ei osod rhwng Ynys Valentia yn ne Iwerddon ac anheddiad bach Heart’s Content yn Newfoundland. Syniad dyn busnes cyfoethog o America, Cyrus West Field, oedd defnyddio telegraffiaeth cod Morse, a oedd newydd gael ei dyfeisio, i drosglwyddo signalau ar draws Môr Iwerydd ar hyd cebl o dan y dŵr. Roedd yr her yn aruthrol ond fe’i cyflawnwyd yn y pen draw gan ddwy long a fu’n dirwyn ceblau o bob ochr i Fôr Iwerydd a’u huno yn y canol. Anfonwyd neges o longyfarchiadau gan y Frenhines Victoria yn Lloegr at Arlywydd yr Unol Daleithiau ond yn fuan wedyn cafodd y cebl ei dorri. Cafwyd sawl ymgais arall cyn i gysylltiad cadarn gael ei greu ym 1866.

Does dim modd gor-ddweud yr ymdrechion a fu’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu, gosod a chynnal cebl hyfyw yn ymestyn 2000 o filltiroedd ar hyd gwely’r môr ar ddyfnder o hyd at 2 filltir. Roedd craidd mewnol y cebl yn cynnwys saith llinyn o wifrau copr wedi’u hinswleiddio â gutta-percha, pyg, olew had llin, cwyr gwenyn a rhagor o wifren. Bu’n rhaid i’r rholyn eithriadol drwm o gebl gael ei ddirwyn yn raddol ac yn barhaus oddi ar long a oedd ei hun yn agored i wyntoedd a thonnau Gogledd Iwerydd. Roedd y llongau cyntaf a ddefnyddiwyd yn dal i ddefnyddio hwyliau yn ogystal â pheiriannau stêm yn llosgi glo, ac roedd pwysau’r cebl yn risg ychwanegol mewn moroedd garw. Cafodd bywydau eu colli.

Roedd llwyddiant cebl 1866 yn deillio o ddefnyddio'r llong stêm haearn y Great Eastern, a gynlluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel, yr athrylith beirianneg a fu’n gyfrifol am rwydwaith rheilffyrdd cyntaf Prydain. Ar ôl ei blynyddoedd fel y llong fwyaf i deithwyr rhwng Prydain a Gogledd America, daeth y Great Eastern yn llong gosod cebl, ac roedd ei phŵer a'i sefydlogrwydd yn well nag unrhyw longau cynharach a ddefnyddiwyd. Hi oedd yr unig long a allai gario'r cebl yn ei gyfanrwydd a llwyddodd i’w ddodi ar wely'r môr mewn 14 diwrnod yn unig.

Ar ôl i’r cysylltiad telegraffig cadarn gael ei sefydlu ar draws Môr Iwerydd i Iwerddon, aeth llinellau tir ymlaen tu’r gogledd o Gorc i Waterford a Wexford. Oddi yno roedd cebl presennol yn cario’r cysylltiad o dan Fôr Iwerddon i Sir Benfro – a dyna Gymru a Gogledd America wedi’u cysylltu! Roedd yna gysylltiad ymlaen i Lundain wedyn.

Daeth y cebl i’r lan yn Aber-mawr, bae anghysbell ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Abergwaun. Ond fe allai fod wedi bod yn lle gwahanol iawn pe bai Isambard Kingdom Brunel (yr un un!) wedi cael ei ffordd. Flynyddoedd yn gynharach ym 1847, wrth gynllunio llwybr Rheilffordd y Great Western, penderfynodd Brunel mai Aber-mawr fyddai’r man delfrydol ar gyfer y derfynfa reilffordd a’r porthladd a ragwelai. Gallwch weld y gwaith cloddio arbrofol y tu ôl i’r bae o hyd os ydych chi’n gwybod ble i chwilio. Wrth lwc, cafodd cynllun Brunel ei atal gan y ddaeareg leol; dewiswyd pentref Neyland ymhellach i’r de i fod yn ganolfan drafnidiaeth yn lle Aber-mawr. Cafodd Aber-mawr, a’i fanc graean hir a’i ddyffryn coediog llydan, aros yn lle heddychlon hyd heddiw: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gyda ‘choedwig wedi’i boddi’ gynhanesyddol i’w gweld ar y llanw isaf.

Mae un peth i’n hatgoffa am y cysylltiad cebl trawsatlantig i’w weld hyd heddiw: uwchben y bae mae'r cwt a fu’n orsaf gyfnewid yn dal i sefyll. Mae wedi bod yn fwthyn gwyliau ers blynyddoedd lawer ond yn 2016, 150 mlynedd ers gosod y cebl telegraffig, cafodd plac coffa ei godi ar y wal. Mae'n dangos y Great Eastern yn cysylltu'r tri phwynt ar y glannau ar draws map: Fortune’s Bay, Ynys Valentia ac Aber-mawr, wedi’i huno o dan y tonnau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw