Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Chwe deg chwe diwrnod ar ôl gadael ei borthladd cartref yn Gloucester, Massachusetts, dododd Alfred Johnson ei draed sigledig ar y lan yng Nghymru, er mawr syndod i bentrefwyr Abercastell.

Stori
The inhabitants of Abercastle, Pembrokeshire were much surprised on Saturday [10 Awst 1876] by the arrival on their coast of a seaman named Alfred Johnson in an open boat in which he left Gloucester Massachusetts on the 15th June. The boat is called “Centennial” and is only 15ft 6ins keel...After partaking some refreshments at Abercastle he again put to sea, directing his course for Liverpool.

Y pwt hwn o adroddiad mewn papur newydd lleol yw’r unig gofnod cyfoes sydd gan Sir Benfro o ddigwyddiad eithriadol, glaniad y person cyntaf i groesi'r Iwerydd ar ei ben ei hun. Mae’n amhosibl dyfalu beth roedden nhw’n feddwl wrth weld dyn main, blêr ac arno olion y tywydd yn baglu i fyny'r traeth. Cymraeg oedd mamiaith y pentrefwyr ond diau bod rhai yn siarad Saesneg hefyd. Rhaid bod acen Danaidd-Americanaidd y morwr yn swnio'n od iddyn nhw a phan ddywedodd ei fod wedi hwylio o Gloucester efallai fod rhai’n tybio mai o Gaerloyw a Môr Hafren roedd e wedi dod.

Un digon dywedwst oedd Alfred Johnson, a anwyd yn Nenmarc, a go brin bod ganddo’r egni i wneud llawer o esbonio. Ond gwyddom ei fod wedi ymadael â’i borthladd cartref yn Massachusetts yn benderfynol o gyflawni camp a oedd yn deilwng o ganmlwyddiant annibyniaeth ei wlad fabwysiedig y flwyddyn honno, sef 1876: dyna’r rheswm dros enwi ei gwch yn Centennial. O ran ei grefft, roedd yn bysgotwr ac er nad oedd eto'n 30 oed roedd eisoes wedi treulio blynyddoedd yn dal penfras a halibwt ar Fanciau Mawr Newfoundland.

Roedd ei waith yn arbennig o galed, fel dyn ceubal. Roedd y ceubal yn gwch bach a gâi ei gludo ar y sgwneri a’i ollwng gyda chriw o ddau ddyn i ddal y pysgod. Gydag un dyn yn rhwyfo a'r llall yn gosod yr abwyd, roedd rhaid tynnu’r ddalfa i mewn a mynd â hi'n ôl i'r sgwner drwy’r dydd bob dydd, a hynny ym mhob tywydd.

Yn ôl ar dir sych mewn tafarn pysgotwyr, hwyrach bod Alfred wedi brolio ei allu ei hun fel morwr, oherwydd mae’n ymddangos bod rhywun wedi betio na allai groesi'r Iwerydd ar ei ben ei hun. Os derbyniodd yr her 3000 milltir ar fympwy, fe baratôdd at y daith yn fanwl.

Roedd ganddo gwch a oedd wedi'i adeiladu i ateb ei fanyleb ef ei hun, yn seiliedig ar ei brofiad ar y môr. Gellid plygu'r mast i lawr mewn tywydd garw, roedd yna gloriau wedi'u selio ar gyfer y nwyddau sylfaenol, tanc dŵr, a stof, na allai gael ei ddefnyddio heblaw mewn tywydd teg. Doedd dim caban, dim ond twll bach agored i eistedd ynddo oedd yn golygu bod Alfred yn agored i'r elfennau bob amser. Haearn crai oedd y balast (dewis gwael, gan fod y metel yn gwyro’i gwmpawd).

Oherwydd tywydd garw, cafodd ymadawiad Alfred ei ohirio tan 15 Mehefin. Doedd y dorf fach a ffarweliodd â’r Centennial wrth iddo ymadael â harbwr Gloucester am ddociau Lerpwl ddim yn optimistaidd: roedden nhw wedi gweld llawer o fywydau'n cael eu colli i'r tonnau. O’i flaen roedd peryglon Gogledd yr Iwerydd lle roedd mynyddoedd rhew a niwl rhewllyd yn beryglon gydol y flwyddyn; roedd hefyd yn lôn llongau brysur. Roedd hyn yn golygu bod Alfred bob amser yn aros yn effro yn y nos er mwyn osgoi cael ei daro gan longau mwy. Bythefnos ac 800 milltir i mewn i'r croesiad gallai Alfred weld bod storm yn codi.

Gostyngodd y mast a chlymu ei hun i'r dec â rhaffau. Doedd ganddo ddim dewis wrth i’r tonnau hyrddio’r cwch yma ac acw ond ceisio aros nes i’r storm gilio. Doedd ganddo ddim cysgod ac ni allai gyrraedd ei gyflenwad bwyd. Y cyfan y gallai ei wneud oedd cymryd ambell ddiferyn o chwisgi a dal ati am y gorau. Ar ôl 36 awr, gostegodd y storm: roedd Alfred yn fyw ond yn wlyb, yn oer ac yn llwglyd. Megis dechrau roedd pethau. Byddai dwy storm arall yn dilyn. Yn ystod yr ail, cafodd Alfred ei fwrw'n anymwybodol a bu’n rholio ar
hyd y dec am dair awr, cyn deffro â chwt ar ei ben a chlust dost. Y drydedd storm oedd y fwyaf difrifol.

Roedd y Centennial wedi teithio 1700 o filltiroedd pan gododd y gwynt yn gorwynt a throdd y cwch ar ei gefn, gan daflu Alfred i'r dŵr. Gyda chryfder a phenderfyniad rhyfeddol llwyddodd i ddringo ar gefn y cwch ac yna, gan ddefnyddio’i bwysau ei hun a grym y tonnau, llwyddodd i droi'r cwch yn ôl, dringo'n ôl i mewn a dechrau gwagio’r dŵr. Ac wedyn dyma siarc yn ymddangos, ac yn gorfod cael ei hysio i ffwrdd.

Ac yntau bellach oddi ar Cape Clear yn ne Iwerddon, cyn hir fe welodd oleuadau Kinsale a Tusker Rock ac wedyn goleudai’r Smalls a South Bishop oddi ar lannau Cymru. Gan fod ei gryfder yn pylu, chwiliodd Alfred am rywle i lanio. Daeth y llanw ag ef i fae Abercastell, y gallech weld ei fythynnod gwyn llachar o bell. Er bod y Morlys wedi wfftio'r bae am nad oedd yna 'ddim cysgod hyd yn oed i'r llong leiaf', mae bae hir Abercastell yn arwain at draeth heb harbwr na chei, dim ond traeth tywodlyd lle roedd cychod yn cael eu tynnu i’r lan.

Dydyn ni ddim yn gwybod sut dderbyniad gafodd Alfred ond morwyr oedd gwerinwyr Abercastell hefyd ac roedden nhw'n adnabod dyn blinedig. Mae'n debygol iawn eu bod wedi'i arwain i dafarn y Blacksmith's Arms, a'i roi i eistedd gyda llond mwg o gwrw, powlen o gawl a thoc o fara a chaws.

Arhosodd y morwr blinedig ddim yn hir. Roedd ganddo apwyntiad i'w gadw yn Lerpwl a dyna a wnaeth, gan gyrraedd ar 15 Awst a chael ei groesawu fel arwr mewn derbyniad mawreddog. Ddaeth Johnson byth yn ôl i ymweld ag Abercastell ac nid tan 2003 y gosodwyd plac yn coffáu’r glaniad ar y wal ger y traeth, mewn seremoni lle roedd ei ŵyr yn bresennol.

Tamaid hanesyddol
- Ddaeth Alfred “Centennial” Johnson byth yn ôl i Abercastell ac nid tan 2003 y gosodwyd plac yn coffáu’r glaniad ar y wal ger y traeth, mewn seremoni lle roedd ei ŵyr yn bresennol.

- Ar ôl aros ychydig fisoedd yn Lloegr, dychwelodd Johnson adref ar long i deithwyr, a honno’n tynnu’r Centennial o’i hôl.

- Credir bod yr ynys lanw ym Mae Abercastell sy'n rhoi ei henw i'r lle wedi’i defnyddio'n amddiffynfa yn y cyfnod cynhanesyddol.

- Erbyn hyn, mae’r Centennial yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cape Ann yn Gloucester, Massachusetts.

- Mae Carreg Samson, beddrod dolmen neolithig 5000 o flynyddoedd oed, yn sefyll hanner milltir i’r gorllewin o Abercastell.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw